Ymgyrch Ffermio HSE

Mae HSE (Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch) yn rhedeg ymgyrch o’r enw ‘Work Right Agriculture. Your farm. Your future’.

Mae ymgyrch ddiweddaraf yr Awdurdod yn darparu cyngor ar weithio’n ddiogel gyda da byw, yn ogystal â chynghorion syml ar ddefnyddio cerbydau, i helpu i gadw pawb ar y fferm yn ddiogel.

Mae HSE yn galw ar y diwydiant ffermio cyfan, ar bob ffermwr, y gymuned ffermio, a phob sefydliad ffermio, i chwarae eu rhan er mwyn rheoli’r peryglon a newid diwylliant iechyd a diogelwch y diwydiant.

 

Working safely with livestock 

Yn yr ystadegau mwyaf diweddar a gyhoeddwyd gan HSE, cael eich anafu gan anifail oedd yr achos marwolaeth mwyaf cyffredin ar ffermydd Prydain.  Mae HSE yn gofyn i ffermwyr  barchu da byw a’r peryglon posib drwy ystyried tri maes pwysig, i sicrhau eu bod yn gweithio’n ddiogel i atal anafiadau.

  1. ‘Y trafodwr’ - dylai gael ei hyfforddi a’i oruchwylio nes ei fod yn gymwys; dylai fod yn ystwyth ac mewn iechyd da.  Dylid cynllunio tasgau trafod/trin ymlaen llaw a mabwysiadu dulliau diogel o weithio.
  2. ‘Yr offer’ - megis y craets, y rhedfa, llociau lloia, ieuau, gatiau ac ati – dylent fod yn addas ar gyfer y dasg dan sylw a dylent gael eu gosod a’u defnyddio fel bod pobl a gwartheg yn cael eu cadw ar wahân gymaint â phosib.  Dylai offer hefyd gael ei gynnal a’i gadw’n dda, a dylai bob amser weithio’n iawn.
  3. ‘Yr anifail’ – dylid ei drafod â pharch. Gall teirw fod yn diriogaethol a gall buchod sydd â lloi fod yn amddiffynnol iawn o’u hepil.  Ystyriwch osod modrwyon yn nhrwynau teirw pan fyddant tua 10 mis oed, a defnyddiwch gymhorthion trafod bob amser wrth eu symud.  Dylid cadw teirw stoc mewn llociau tarw pwrpasol sy’n bodloni gofynion penodol.  Dylai ffermwyr ystyried difa anifeiliaid sy’n gyson ymosodol neu’n anodd eu trin.

Working safely with farm vehicles 

 

Damweiniau gyda cherbydau oedd prif achos marwolaethau ar ffermydd Prydain o hyd dros gyfnod o bum mlynedd.  Rydym yn gofyn i ffermwyr ystyried y camau diogelwch cerbydau syml canlynol wrth weithio ar y fferm bob dydd, i helpu i gadw pawb yn ddiogel.

  • Mynnwch fferm ddiogel - cadwch bobl a cherbydau ar wahân gymaint â phosibl 
  • Byddwch yn yrrwr diogel - dylai defnyddwyr cerbydau fod wedi’u hyfforddi a bod yn yrwyr cymwys 
  • Mynnwch gerbyd diogel  - dylai cerbydau gael eu cynnal a’u cadw’n dda a dylai’r defnyddiwr fwrw golwg dros y cerbyd i wneud yn siŵr ei fod yn ddiogel

Am fwy o wybodaeth ac i lawr lwytho adnoddau am ddim:

https://workright.campaign.gov.uk/campaigns/agriculture/?utm_source=govdelivery&utm_medium=email&utm_campaign=agriculture-transport&utm_term=campaign-1&utm_content=ag-19-feb-24