Y Diweddaraf am Ffliw Adar

O 16 Chwefror 2024, caniateir crynoadau o’r holl ddofednod ac adar caeth, ac eithrio adar Anseriforme (hwyaid, gwyddau, elyrch), ar yr amod eich bod yn:

  • bodloni gofynion y drwydded gyffredinol crynoadau dofednod neu'r drwydded gyffredinol ar gyfer crynoadau adar caeth 
  • rhoi gwybod i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) am y crynhoad o leiaf 7 diwrnod cyn y digwyddiad

Ar ôl dros ddwy flynedd o beidio â chaniatáu crynoadau, gwelwyd newid i’r darlun o ran y clefyd yn ystod ail hanner 2023, gyda llai o Eiddo Heintiedig a llai o achosion yn cael eu canfod mewn adar gwyllt.  Ni nodwyd unrhyw Eiddo Heintiedig yng Nghymru ers Ebrill 2023.

Dywed Llywodraeth Cymru nad yw’r cam hwn o ganiatáu crynoadau’n golygu bod y perygl o ffliw adar wedi diflannu.  Mae glendid a bioddiogelwch trylwyr yn hanfodol i warchod heidiau rhag y bygythiad o’r clefyd, ac mae’n bwysig bod ceidwaid adar yn parhau i gwblhau’r rhestr wirio hunanasesu bioddiogelwch.