Feirws Schmallenberg (SBV) dinistriol yn bwrw ŵyn cynnar

Mae nifer yr achosion o’r feirws Schmallenberg (SBV) wedi bod yn cynyddu ledled y DU.  Mae SBV yn glefyd feirysol sy’n effeithio ar wartheg, defaid a geifr, a gafodd ei ganfod am y tro cyntaf yn Awst 2011 yn yr Almaen.  Yn y 6 wythnos hyd at Ionawr 2024, cadarnhaodd APHA (Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion) 63 o achosion o SBV, y mwyafrif ohonynt mewn ŵyn marw-anedig.

 Nid yw SBV yn cael ei drosglwyddo o un anifail i’r llall ond drwy wybed, sydd ar eu prysuraf yn ystod y misoedd mwyaf cynnes a gwlyb.  Tybir bod y cynnydd diweddar oherwydd y tywydd cynhesach a gafwyd yn Hydref 2023.

Ochr yn ochr â nifer cynyddol o achosion yn Ne a Chanolbarth Lloegr, mae SBV hefyd wedi’i ganfod yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. 

Mae SBV yn aml yn gysylltiedig ag erthylu hwyr neu anifeiliaid yn cael eu geni â nam arnynt, ond mae’n bwysig cydnabod na fydd pob achos o ffoetws abnormal wedi’i achosi gan SBV.  Mae namau ar y ffoetws yn fwy tebygol o ddigwydd yn ystod dyddiau 25-50 o’r cyfnod beichiogrwydd mewn defaid, a dyddiau 62-180 mewn gwartheg.  Mae ffoetysau hŷn yn gallu clirio’r feirws.  Mae SBV yn llygru meinwe nerfau’r ffoetws,  sy’n arwain at  annormaledd yn yr ymennydd a llinyn y cefn, yn ogystal â phroblemau eraill gyda’r cyhyrau a’r ysgerbwd.  Mae enghreifftiau cyffredin o annormaledd yn cynnwys coesau wedi’u hanffurfio, cymalau’n cloi, gwddf a choesau wedi ffiwsio, ac arwyddion nerfol megis symud yn drwsgl, gorwedd o hyd,  methu sugno, a chonfylsiynau.  Mewn anifeiliaid llawn dwf, mae’r arwyddion clinigol yn cynnwys cynhyrchu llai o laeth, colli cyflwr, llai o awydd bwyd a dolur rhydd.  Gall y clefyd ar ei fwyaf difrifol bara rhwng 2 a 6 diwrnod a gall anifeiliaid sydd wedi’u heintio ddatblygu imiwnedd yn gyflym i’r feirws hwn.

Does dim cynlluniau iawndal yn bodoli ar gyfer stoc sydd wedi’u heintio a does dim rhaglen orfodol o ddifa anifeiliaid sydd wedi’u heintio.  Yn sgil y ffaith bod y diagnosis o SBV yn digwydd gan amlaf mewn anifeiliaid newydd-anedig, ni fyddai cyfyngu ar symudiadau anifeiliaid yn ffordd effeithiol o reoli’r clefyd, oherwydd mi fyddai’n debygol bod yr heintiad wedi digwydd fisoedd cyn cadarnhau’r clefyd.

Does dim brechlyn masnachol yn erbyn SBV ar gael ar hyn o bryd, ond mi allai’r sefyllfa newid os caiff mwy o achosion eu canfod.  Er nad yw SBV yn glefyd hysbysadwy, mae UAC yn parhau i bwysleisio y dylai ffermwyr wneud yn siŵr eu bod yn gyfarwydd ag arwyddion clinigol y clefyd, er mwyn rhoi gwybod i APHA am unrhyw achosion amheus, fel bod modd cynnal profion fel rhan o raglen wyliadwriaeth ehangach ar gyfer y clefyd.