Canllawiau Dyddiadur Gwaith Cynllun Cynefin Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer y rhai sy’n ymuno â’r Cynllun Cynefin yn 2024.

Bydd gofyn i’r rhai sy’n rhan o’r cynllun i gadw dyddiadur gwaith ar gyfer pob parsel o dir sydd wedi’i gynnwys yn y contract fel tir cynefin neu laswelltir parhaol cymwys sy’n cael ei reoli fel tir cynefin.

Rhaid cofnodi’r canlynol, o leiaf, yn y dyddiadur gwaith:

  • Cofnod o unrhyw waith tocio’r glaswellt.
  • Cofnod o gyfnodau caeedig ar weirgloddiau a dyddiadau torri gwair.
  • Cofnod gwasgaru calch.
  • Cofnod gwasgaru unrhyw blaladdwyr angenrheidiol.
  • Cynnal a chadw terfynau caeau traddodiadol.
  • Unrhyw waith ar y tir cynefin sydd yn eich contract ar unrhyw ddiwrnod o’r flwyddyn.
  • Ar gyfer categorïau o gynefin lle ceir gofynion o ran rheoli lefelau pori, rhaid cofnodi’r dyddiad y cyflwynwyd da byw, a’r dyddiad y symudwyd neu leihawyd nifer y da byw.

Mae’r Dyddiadur Gwaith a’r canllawiau ar gael yma:

https://www.llyw.cymru/cynllun-cynefin-cymru-dyddiadur-gwaith