Cyfle i dyfwyr llysiau yng Ngogledd Powys

Mae Tyfu Dyfi yn chwilio am ffermwyr yng Ngogledd Powys sydd â diddordeb mewn tyfu caeau o lysiau gan ddefnyddio dulliau amaeth-ecolegol, i’w bwyta’n lleol.

Ar hyn o bryd mae Tyfu Dyfi’n gwerthu meintiau sylweddol drwy gynlluniau bocsys llysiau ac ar-lein, OND maent yn gorfod prynu peth cynnyrch, megis tatws, bresych, moron, panas ac ati gan gyfanwerthwyr i gwrdd â’r galw.

Mae gan Tyfu Dyfi rywfaint o gyllid, a gallant ddarparu cymorth megis mentora gan dyfwyr lleol profiadol, a pheiriannau ar brydles os oes angen.

Os oes gennych chi ddiddordeb ehangach a’ch bod am ddysgu oddi wrth rwydwaith o dyfwyr am opsiynau arallgyfeirio garddwriaethol a/neu dyfu ar raddfa garddio masnachol, efallai y gall Tyfu Dyfi helpu gyda hynny hefyd.

Ar hyn o bryd mae gan Tyfu Dyfi gyllid ar gyfer 2024 yn unig felly atebwch cyn gynted â phosib.

Cysylltwch â Chris ar This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu ffoniwch 07595 116 991 am drafodaeth anffurfiol.