Cynllun Ffermio Cynaliadwy – Digwyddiadau Gwybodaeth

Mae Llywodraeth Cymru’n cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru yn ystod Ionawr a Chwefror.

Bydd y digwyddiadau hyn yn rhedeg o 14:00 i 20:00. Byddant yn cynnwys cymysgedd o gyflwyniadau ffurfiol a stondinau gwybodaeth lle gallwch drafod yr ymgynghoriad, a sut y gallwch roi camau gweithredu arfaethedig y cynllun ar waith ar eich fferm chi.

Mae manylion digwyddiadau Chwefror wedi’u rhestru isod:

5 Chwefror 2024: 14.00 – 20.00 Neuadd Bentref Llanarth, Brynbuga, NP15 2AU 

6 Chwefror 2024: 14.00 – 20.00 Gwesty a Sba Best Western Heronston, Pen-y-Bont ar Ogwr,  CF35 5AW

9 Chwefror 2024: 14.00 – 20.00 Y Pafiliwn Rhyngwladol, Safle Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt, LD2 3SY

14 Chwefror 2024: 14.00 – 20.00 Y Plas, Machynlleth, SY20 8ER