UAC yn talu teyrnged i’r Prif Weinidog Mark Drakeford

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi talu teyrnged i Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford, a roddodd y gorau i fod yn arweinydd Llafur Cymru Ddydd Mercher 13 Rhagfyr 2023, ac a fydd yn rhoi’r gorau i fod yn Brif Weinidog ym mis Mawrth 2024.

Dywedodd Mr Drakeford y bydd yr enwebiadau ar gyfer ei olynydd fel arweinydd yn agor yn fuan, a bydd y broses wedi’i chwblhau erbyn diwedd tymor Gwanwyn y Senedd, gan ganiatáu i enillydd yr ornest fynd gerbron y Senedd cyn gwyliau’r Pasg.  Mi fydd yn parhau i fod yn Brif Weinidog tan yr adeg honno, ond mi fydd yn rhoi’r gorau i fod yn Arweinydd Llafur Cymru ar unwaith.

Mae UAC yn diolch i’r Prif Weinidog Mark Drakeford am ei wasanaeth i Gymru ac yn dymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol.

Fel Undeb, mae UAC yn gwybod bod ffermydd teuluol, yn arbennig, wrth galon ein heconomi wledig, yn gofalu am ein tirwedd ac, wrth gwrs, ein diwylliant, a’u bod yn gwneud cyfraniadau eraill dirifedi  at lesiant Cymru a’r DU.  Mae UAC yn edrych ymlaen at weithio gyda’r Prif Weinidog a’r Arweinydd Llafur nesaf a benodir ar gyfer Cymru, i sicrhau bod yna ffermydd teuluol ffyniannus a chynaliadwy o hyd yng Nghymru.