Datblygiad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar ei gam mwyaf hanfodol medd UAC, wrth i Lywodraeth Cymru lansio’r ymgynghoriad terfynol

Mae Undeb Amaethwyr Cymru’n annog ei haelodau i ymateb i gynigion diweddaraf y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan ddweud mai dyma’r newid pwysicaf i’r polisi amaethyddol yng Nghymru ers sefydlu’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn 1962.

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio’r ymgynghoriad terfynol ar ddyfodol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sef y mecanwaith a ddefnyddir i ddarparu cymorth i ffermwyr yng Nghymru o 2025 ymlaen.

Mae UAC wedi ymgynghori dro ar ôl tro gyda’r aelodau ar amryw o fersiynau o’r cynllun hwn ers 2018 ac mae bellach ar y cam mwyaf tyngedfennol o’i ddatblygiad.

Er i UAC lobïo’n llwyddiannus am rai newidiadau hanfodol i’r cynllun ers ei sefydlu, gan gynnwys darparu taliad llinell sylfaen, mae yna nifer o rwystrau a chwestiynau sylweddol o hyd ynghylch rhai manylion.

Mewn ymateb i’r Ymgynghoriad Brexit a’n Tir, nododd UAC fod yn rhaid i unrhyw gynllun taliadau yn y dyfodol sy’n seiliedig ar ganlyniadau amgylcheddol a nwyddau cyhoeddus hefyd ddiogelu ffermydd teuluol, cefnogi cymunedau gwledig a swyddi yng Nghymru, a sicrhau bod amaethyddiaeth yn gynaliadwy a gwerth chweil.  Mae methu â gwneud hynny’n debygol o wneud difrod difrifol i ffermydd teuluol yng Nghymru a’r rôl a chwaraeir ganddynt o fewn economi, cymdeithas, diwylliant a thirwedd Cymru.

Mae’r blaenoriaethau polisi hyn yn parhau i fod yn sail i ofynion allweddol UAC mewn perthynas â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy - rhaid i’r cynllun hwn fod yn un ymarferol i holl ffermwyr Cymru, a rhaid iddo’n helpu i gyrraedd ein nodau cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.

Bydd UAC yn mynd trwy bob rhan o’r ddogfen ymgynghori’n drwyadl a bydd yn ymgynghori â’r aelodau ar holl fanylion y cynigion.  Mae’r ymgynghoriad hwn yn amlinellu’r newid pwysicaf i bolisi amaethyddol Cymru ers cyflwyno’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn 1962, ac mae’n annog pob aelod felly i gymryd rhan a chyfrannu at ymateb yr Undeb.