Grwpiau ffermio ac amgylcheddol yng Nghymru’n rhannu eu pryderon cyllidebol gyda’r Prif Weinidog

Mae grŵp o sefydliadau ffermio ac amgylcheddol yng Nghymru wedi ysgrifennu ar y cyd at Brif Weinidog Cymru i bwysleisio pwysigrwydd cynnal y gyllideb Materion Gwledig ar gyfer 2024/25.

Mae’r llythyr at y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS wedi’i gyd-arwyddo gan CLA Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru (UAC), NFU Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, RSPB Cymru, CFfI Cymru, Cymdeithas Ffermwyr Tenant Cymru a Fforwm Organig Cymru.  Mae’r grŵp yn galw am sicrwydd cyllidebol ar gyfer y portffolio Materion Gwledig cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chyllideb ddrafft yn ddiweddarach yn y mis.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhybuddio ei bod yn wynebu ‘ei sefyllfa ariannol anoddaf ers datganoli’.  Yn gynharach eleni, gwnaeth Llywodraeth Cymru nifer o doriadau canol blwyddyn i’r gyllideb - gan gynnwys lleihau’r pot Materion Gwledig o £37.5m - fel rhan o broses o ‘ail-flaenoriaethu’ ei chyllideb i fynd i’r afael â diffyg cyllid sylweddol.

Dyma a ddywed y llythyr ar y cyd:

“Er ein bod yn cydnabod yr heriau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu, mae cyllideb gyfan yr Adran Materion Gwledig o £482 miliwn yn cynrychioli 2% yn unig o Gyllideb Llywodraeth Cymru.  Mae’n hanfodol bwysig bod y gyllideb hon yn aros yr un fath o leiaf, i sicrhau ein bod yn cyflawni’n hymrwymiadau a’n dyheadau mewn perthynas â bwyd, natur a’r amgylchedd.

“Yn ystod cyfnod o newid digynsail, rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am yr ymrwymiad a ddangoswyd ganddi i ffermio a’n hamgylchedd drwy gynnal lefelau cyllid Cynllun y Taliad Sylfaenol a’r Cynllun Glastir dros y blynyddoedd diwethaf.

“Rydym yn hynod bryderus, fodd bynnag, bod cefn gwlad Cymru bellach yn wynebu colled o £37.5m o ganlyniad i’r adolygiad canol blwyddyn o gyllidebau a gadarnhawyd yn Hydref 2023, sef lleihad o 7.9% i gyllideb sydd heb ei chynyddu ers degawd a mwy.  Mae hyn ar adeg pan mae gofyn i ffermwyr a rheolwyr tir ddarparu llawer mwy ar gyfer cymdeithas nag ar unrhyw adeg arall, a hynny mewn sefyllfa economaidd hynod o heriol.

“Fel sefydliadau ffermio ac amgylcheddol, rydym o’r farn bendant y bydd unrhyw doriadau pellach i Gyllideb yr Adran Materion Gwledig, ac o fewn honno, y cyllid a ddyrannir i ddarparu’r cymorth sy’n rhoi sefydlogrwydd i fusnesau gwledig, ochr yn ochr â mesurau sy’n helpu i gyrraedd y nodau amgylcheddol, yn bygwth ac yn tanseilio’n ddifrifol ein cymunedau gwledig, a’n gallu i gyflawni’n dyhead unfrydol i fod yn arweinwyr byd-eang o ran cynhyrchu bwyd sy’n ystyriol o’r amgylchedd a byd natur.”