Crynodeb o’r Newyddion Rhagfyr 2023

Aelod-wladwriaethau’r UE yn gofyn am hyblygrwydd o ran tir braenar

Mae un ar ddeg o aelod-wladwriaethau’r UE yn galw am fwy o ‘hyblygrwydd’ o ran y  gofyniad, a gafodd ei randdirymu’n ddiweddar, i adael tir yn fraenar dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC).

Oherwydd y rhyfel yn Wcráin a’r angen brys i ddiogelu cyflenwad bwyd Ewrop, cytunodd Comisiwn yr UE i ganiatáu dau randdirymiad blynyddol i aelod-wladwriaethau i drin tir braenar a osodwyd o’r neilltu yn 2022 a 2023. 

Fodd bynnag, mae rheoliadau amaethyddol yr UE yn nodi y gellir llacio’r rheolau am un flwyddyn yn unig, a chafodd dirymiad pellach ar gyfer 2024 ei wrthod ym mis Awst, gan olygu y bydd angen cadw tir o’r fath yn fraenar yn 2024.

Mae’r cynnig yn gofyn bod yna drawsgydymffurfio o hyd, ond mai dim ond is-gnydau a chnydau bachu nitrogen fyddai’n gorfod bodloni’r gofynion bioamrywiaeth o 7%.  Ar hyn o bryd dim ond 4% o’r 7% y gellir ei ddefnyddio yn y ffordd hon, gyda’r 3% arall yn aros yn dir braenar.

 

 

 

Lloegr yn cyflwyno cronfa ar gyfer lladd-dai bach

Bydd lladd-dai llai yn Lloegr yn gallu gwneud cais am grantiau cyfalaf drwy gronfa newydd gwerth £4 miliwn a gynlluniwyd i hybu’r sector.

Mae’r cynnydd o ran costau gweithredu, gan gynnwys y gost o waredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid, wedi arwain at ostyngiad mawr yn y nifer o ladd-dai llai sy’n dal i weithredu dros y blynyddoedd diwethaf.  Rhwng 2018 a 2020 mae nifer y lladd-dai cig coch llai o faint wedi gostwng o tua 25%, ac mae nifer y lladd-dai dofednod llai o faint wedi gostwng o tua 40%.

Trwy’r Gronfa Lladd-dai Llai (SAF) mae  grantiau o rhwng £2,000 a £60,000 ar gael i ladd-dai yn Lloegr ar gyfradd ymyrryd o 40%.

 

 

 

Achosion o’r Tafod Glas yn dal i gynyddu

Yn dilyn gwaith gwyliadwriaeth o fewn y parth rheoli dros dro (TCZ), canfuwyd achosion pellach o BTV 3, gyda chyfanswm o 11 o achosion yn cael eu nodi mewn 6 eiddo gwahanol yn Lloegr.

Canfuwyd achosion am y tro cyntaf yn y DU ers 2007 ar fferm ger Caergaint yng Nghaint ar 11 Tachwedd.

Mae’r parth rheoli dros dro (TCZ) wedi’i ymestyn i gynnwys arfordiroedd Gogledd a Dwyrain Caint.  Mae ymestyn y parth yn helpu i sicrhau gwyliadwriaeth effeithiol a lleihau lledaeniad y clefyd. Mae’r holl achosion wedi, neu mi fyddant yn cael eu difa’n drugarog i leihau unrhyw berygl o drosglwyddo’r clefyd ymhellach.