Lansio Ymgynghoriad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS)

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio’r ymgynghoriad allweddol a therfynol ar ddyfodol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sef y mecanwaith ar gyfer darparu cymorth i ffermwyr yng Nghymru o 2025 ymlaen.

Bydd Tîm Polisi UAC yn mynd trwy bob rhan o’r ddogfen bolisi  yn drwyadl a bydd yn teithio ar hyd a lled Cymru i gyflwyno’r ddogfen ymgynghori i aelodau UAC yn y flwyddyn newydd.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn amlinellu’r newidiadau pwysicaf i’r polisi amaethyddol yma yng Nghymru ers cyflwyno’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yn 1962, ac mae UAC felly yn annog pob aelod i gymryd rhan a chyfrannu at ymateb yr Undeb.

Mae’r ddogfen ymgynghori ar gael yma:https://www.llyw.cymru/cynllun-ffermio-cynaliadwy-ymgynghori

Cynhelir cyfarfodydd UAC fel a ganlyn:

22 Ionawr 2024   7.30 PM   Caernarfon (lleoliad i’w gadarnhau)

23 Ionawr 2024   7.30 PM   Ceredigion, Clwb Rygbi Aberaeron

24 Ionawr 2024   7.30 PM   Dinbych a Fflint, Genus, Rhuthun

25 Ionawr 2024   7.30 PM   Caerfyrddin, Clwb Rygbi Carmarthen Athletic

25 Ionawr 2024   12.00 PM   Sir Benfro, Neuadd Goffa Ffordd Clarbeston

25 Ionawr 2024   7.00 PM   Morgannwg, Clwb Golff y Grove, Porthcawl

29 Ionawr 2024   7.00 PM   Brycheiniog a Sir Faesyfed, Pafiliwn UAC, Safle SFC

30 Ionawr 2024   7.30 PM   Ynys Môn, swyddfa CFfI, Maes Sioe Môn

1 Chwefror 2024   10.00 AM   Meirionnydd, Fferm Sylfaen, Y Bermo, Gwynedd, LL421DX

1 Chwefror 2024   7.00 PM   Gwent, Marchnad Da Byw Sir Fynwy

6 Chwefror 2024   7.30 PM   Sir Drefaldwyn, Marchnad Da Byw Y Trallwm