Y sefyllfa ddiweddaraf o ran y Tafod Glas

Yn dilyn gwaith gwyliadwriaeth o fewn y parth rheoli dros dro (TCZ), canfuwyd achosion pellach o BTV 3, gyda chyfanswm o 11 o achosion yn cael eu nodi mewn 6 eiddo gwahanol yn Lloegr.

Mae’r parth rheoli dros dro (TCZ) wedi’i ymestyn i gynnwys arfordiroedd Gogledd a Dwyrain Caint.  Mae ymestyn y parth yn helpu i sicrhau gwyliadwriaeth effeithiol a lleihau lledaeniad y clefyd.

Mae’r holl achosion wedi, neu mi fyddant yn cael eu difa’n drugarog i leihau unrhyw berygl o drosglwyddo’r clefyd. 

Does dim tystiolaeth o hyd bod y feirws yn lledaenu drwy boblogaeth wybed y DU a chyda’r tymheredd cyffredinol yn dal i gwympo, mae’r perygl bod y clefyd yn cael ei drosglwyddo gan wybed yn lleihau o hyd.

Ceir gwybodaeth bellach am yr arwyddion clinigol ac adnoddau yma: https://ruminanthw.org.uk/bluetongue-virus/