Yr Undeb yn pwysleisio pwysigrwydd ariannu teg ar gyfer y diwydiant mewn cyfarfodydd â gwleidyddion

Bu Undeb Amaethwyr Cymru’n pwysleisio pwysigrwydd ariannu clir a phenodol ar gyfer y sector mewn cyfarfodydd â gwleidyddion yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd, gan dynnu sylw hefyd at yr angen brys am eglurder os ydyn ni am gadw ffermydd teuluol Cymru.

Mae’r pryderon am y posibilrwydd na fydd cyllidebau amaethyddiaeth a datblygu gwledig yn cael eu hadfer, neu hyd yn oed yn cael eu cwtogi ymhellach, yn dwysau yn sgil y ffaith nad yw hynny o gyllid sydd ar gael wedi’i neilltuo bellach i roi cymorth uniongyrchol i ffermwyr ac amcanion datblygu gwledig penodol.

Hefyd, nid yw’n cael ei reoleiddio gan feini prawf llym o ran gwariant, gan olygu bod Llywodraethau cenedlaethol, yn y bôn, yn rhydd i leihau cymorth ac ail-ddyrannu cyllid i ffwrdd o gymunedau gwledig, heb roi ystyriaeth i’r egwyddorion cymdeithasol a ategwyd gynt drwy ddeddfwriaeth y DU a’r UE.  Mae UAC am gael eglurder ar frys ar y materion hyn gan San Steffan a Chaerdydd.

Bu UAC hefyd yn trafod materion yn ymwneud â Chynllun Cynefin Cymru, y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a materion yn ymwneud â’r Parc Cenedlaethol arfaethedig yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a Sir Drefaldwyn.