Y diweddaraf am Ffliw Adar

Mae Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan wedi’i ddatgan gan Lywodraeth Cymru o 17eg Hydref 2022.  Mae’r Parth Atal yn ymestyn dros bob rhan o Gymru.  Bydd yn rhaid i geidwaid adar gadw at fesurau bioddiogelwch penodol, fel y’u gosodir yn y datganiad.

Mae’r mesurau bioddiogelwch yn y datganiad yn cynnwys:

  • bod rhagofalon yn cael eu cymryd i osgoi trosglwyddo’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol halogiad y feirws rhwng eiddo, o unrhyw beth all ledaenu’r haint fel dillad, a thrwy lanhau a diheintio cyfarpar, cerbydau ac esgidiau.
  • nad yw bwyd, dŵr na sarn yn agored i halogiad y feirws, yn arbennig trwy dail adar a’u bod yn cael eu storio mewn modd nad yw adar gwyllt yn gallu cyrraedd atynt; 
  • bod cofnodion yn cael eu cadw (ar wahân i mewn sw) o bob cerbyd sy’n mynd i mewn i unrhyw ran o’r eiddo lle cedwir dofednod ac o bob person sy’n dod i gysylltiad uniongyrchol â’r dofednod.  
  • bod pob cam rhesymol yn cael ei gymryd i waredu o’r ardal dan sylw blu neu garthion halogedig o adar gwyllt a all fod yn bresennol;.

Ceir manylion yr holl fesurau y mae angen cydymffurfio â nhw yma

Mae’r achosion diweddaraf a gadarnhawyd yng Nghymru’n cynnwys achosion ym Mwcle, Sir y Fflint ar 7fed Tachwedd ac yn Amlwch, Ynys Môn ar 23ain Hydref.