Cynigion HCC i gynyddu’r lefi cig coch

Mae Hybu Cig Cymru wedi lansio ymgynghoriad wyth wythnos ar gynigion i gysylltu cyfraddau lefi cig coch â chyfraddau chwyddiant.  Mae HCC am gael barn rhanddeiliaid ar sut y gellir parhau â’r gwaith o hyrwyddo cig coch Cymru yng ngoleuni’r gostyngiad, mewn termau real, yn yr incwm o refeniw’r lefi, oherwydd chwyddiant dros y 10 mlynedd diwethaf.

Mae’r cynnig ar gyfer cyflwyno mecanwaith newydd i ganiatáu i’r cyfraddau lefi blynyddol cyd-redeg â chwyddiant, fel bod incwm y lefi’n aros yr un peth mewn termau real.  Er enghraifft, petai chwyddiant yn 2022 yn 8.8% yna byddai cyfraddau lefi 2023/24 yn cynyddu 8.8%.  Mi fyddai hynny’n golygu bod y lefi ar gyfer cynhyrchwr defaid yn 2023/24 6 cheiniog yn uwch, gan godi o 63 ceiniog i 69 ceiniog, a’r lefi gwartheg 38 ceiniog yn uwch, gan godi o £5.67 i £6.05.

Mae HCC yn dweud y byddai cynyddu incwm y lefi yn sicrhau bod gan ddiwydiant cig coch Cymru gorff cig coch sydd â chyllid digonol i fynd ati i ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru, gartref a thramor. 

Mae HCC yn cynnal cyfarfodydd i drafod y cynigion trwy gydol Tachwedd a Rhagfyr.  Mae manylion y cyfarfodydd fel a ganlyn:-

 

7.00pm Dydd Mawrth 22ain Tachwedd  -  Coleg Glynllifon, Caernarfon

7.00pm Dydd Llun 5ed Rhagfyr  -  Coleg Cambria, Llysfasi, Rhuthun

7.00pm Dydd Mercher 7fed Rhagfyr  -  Cyfarfod ar-lein

 

Cofrestrwch ar gyfer y cyfarfodydd ar This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. / 01970625050

 

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 16eg Rhagfyr 2022. I gwblhau arolwg yr ymgynghoriad ewch i https://meatpromotion.wales/cy/levy-survey-2022