Gwyliadwriaeth Gwerthiant ac Ymwrthedd i Wrthfiotigau Milfeddygol y DU 2021

Cyhoeddwyd Adroddiad Gwyliadwriaeth Gwerthiant ac Ymwrthedd i Wrthfiotigau Milfeddygol (VARSS) y DU 2021 ar 8fed Tachwedd, ac roedd yn dangos tueddiad tuag at ddefnyddio llai o wrthfiotigau ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd yn y DU. 

Ers 2014 mae adroddiadau VARSS wedi dangos sut y mae data ar werthiant gwrthfiotigau a’u defnydd ar ffermydd wedi helpu i ddangos tueddiadau cenedlaethol, a llunio camau gweithredu.

Mae prif bwyntiau adroddiad eleni fel a ganlyn:

  • Er bod y blynyddoedd o ostyngiadau dramatig wedi mynd heibio, mae adroddiad VARSS eleni yn dal i ddogfennu tueddiadau tuag at werthiant is o wrthfiotigau milfeddygol yn y DU, gyda newid bach (gostyngiad o 6%) ers 2021, i 28.3 mg/kg. Dyma’r ffigur isaf a gofnodwyd yn y DU ar gyfer gwerthiant gwrthfiotigau milfeddygol hyd yma, ac mae’n cynrychioli gostyngiad o 55% ers 2014.
  • Mae’r proffesiwn milfeddygol a diwydiant da byw y DU hefyd wedi parhau â’u hymdrechion ar y cyd i leihau’r defnydd o Wrthfiotigau Hanfodol Bwysig Blaenoriaeth Uchaf (HP-CIA), sydd erbyn hyn wedi gostwng 83% ar draws anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd ers 2014.  Mae’r defnydd o wrthfiotigau HP-CIA yn cyfrif am 0.4% yn unig o’r cyfanswm gwerthiant gwrthfiotigau milfeddygol.
  • Yn 2021, gwelwyd gostyngiad yn y defnydd o wrthfiotigau yn y sectorau moch, ieir bwyta, hwyaid ac ieir dodwy.
  • Yn ôl canlyniadau’r rhaglen Monitro Wedi’i Gysoni mewn perthynas ag Ymwrthedd Gwrthficrobaidd mae gwyliadwriaeth o foch iach ledled y DU yn dangos gwelliant cyffredinol yn yr ymwrthedd ers 2015,  gan gynnwys cynnydd o ran E. coli â rhagduedd lawn, a gostyngiad o ran E. coli ag ymwrthedd lluosog.

Mae Adroddiad VARSS y DU 2021, ynghyd â Deunydd Ategol ac Adroddiad Prif Bwyntiau ar gael yma