Arolwg Masnachu Seiliedig ar Risg o TB Buchol

Mae UAC am gael barn ei haelodau ar ibTB, sef y teclyn masnachu seiliedig ar risg sy’n mapio achosion o TB Buchol yng Nghymru a Lloegr dros y 10 mlynedd flaenorol.

Ar hyn o bryd mae safle ibTB yn un mynediad agored, rhad ac am ddim, sydd ar gael yma. Mae ibTB yn cael ei ariannu ar hyn o bryd gan Defra a Llywodraeth Cymru a chafodd ei ddatblygu gan Grŵp Ymchwil Amgylcheddol Rhydychen (ERGO) ac APHA. Mae ERGO ac APHA yn parhau i ddatblygu ibTB ac maent wedi dylunio arolwg Defnyddiwr sy’n ymdrin ag ymarferoldeb y safle, a hefyd y ffactorau y dylid eu cynnwys wrth ddefnyddio’r safle i bennu’r risg o TB mewn gwartheg cyn eu prynu.

Mae ibTB eisoes yn arddangos gwybodaeth masnachu seiliedig ar risg ar gyfer buchesi yn Lloegr.  Mae hyn yn cynnwys nifer y blynyddoedd y mae buches wedi bod yn rhydd o TB.  Fodd bynnag, mae ‘na ‘sgorau iechyd’ eraill mwy cymhleth y gellid eu cynnwys, sy’n cyfuno gwahanol ddarnau o wybodaeth.  Mi allai hyn gynnwys nifer y gwartheg adweithiol fesul buches heintiedig (fel canran o nifer yr anifeiliaid yn y fuches), neu hanes symudiadau buchesi y bwriedir prynu anifeiliaid ohonynt.  Un ffordd arall bosib o fesur risg a gynigir yw p’un ai yw’r fuches yn aelod o gynllun achrededig megis CHeCS ai peidio. 

O ystyried y rhethreg bresennol mewn perthynas â’r defnydd o fasnachu seiliedig ar risg ar gyfer TB yng Nghymru, mae UAC yn annog ei haelodau i gymryd rhan yn yr arolwg isod a lleisio’u barn.  Mae’n hanfodol bod yr holl ardaloedd risg rhanbarthol yn cael eu cynrychioli i gael darlun cyfan o fanteision ac anfanteision darparu gwybodaeth o’r fath.

Mae’r ddolen i’r arolwg isod ac mi fydd ar agor o 25ain Tachwedd tan 25ain Rhagfyr.

https://ec.europa.eu/eusurvey/runner/IBTB_USER_SURVEY