UAC yn pwysleisio pwysigrwydd craffu yn sesiwn dystiolaeth y Bil Masnach

Pwysleisiodd Undeb Amaethwyr Cymru bwysigrwydd craffu ar unrhyw gytundebau masnach a wnaiff y DU pan roddodd dystiolaeth gerbron pwyllgor y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) ar Ddydd Mercher 12 Hydref.

Croesawodd UAC y cyfle i roi tystiolaeth gerbron y pwyllgor.  Serch bod y Bil hwn yn cyfeirio’n benodol at adrannau caffael y cytundebau masnach ac, os caiff ei basio, hwn fydd y darn olaf o’r jig-so o ran caniatáu i Lywodraeth y DU gadarnhau’r cytundebau masnach, roedd, serch hynny’n darparu cyfle i leisio pryderon ynghylch yr effeithiau posib, a’r broses graffu bresennol.

Os gall cynhyrchwyr Seland Newydd ac Awstralia wneud cais am gontractau caffael yn y DU, mi fydd hynny’n gymhelliad pellach i foddi marchnadoedd y DU.  O fewn y darlun mawr byd-eang, mae’n annhebygol y byddai cynhyrchwyr y DU yn gallu cystadlu am gontractau caffael yn eu gwledydd oherwydd y gwahaniaethau o ran cyfraddau a dulliau cynhyrchu, ond mae hyn, yn y bôn yn pwysleisio pwysigrwydd cyfeirio polisïau caffael yn y DU tuag at gynnyrch Cymreig a Phrydeinig.

Mae UAC o’r farn bod gwell broses graffu’n rhan hanfodol o sefydlu unrhyw gytundeb masnach. 

Mae angen i aelodau San Steffan sicrhau bod y broses graffu ar gyfer unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol yn un effeithiol, fel nad yw eu pwerau fel gwleidyddion yn cael eu tanseilio.  Mae’r ffaith na chafodd y llywodraeth gyfle i gynnal dadl dan broses y Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu, a bod angen pasio’r Bil Masnach hwn er mwyn newid y Gyfraith Ddomestig i gyd-fynd â’r hyn a gytunwyd ac i gadarnhau’r cytundebau, yn dangos pa mor frysiog ac arwynebol y bu’r broses graffu hyd yma.

Mi fydd yna bob amser enillwyr a chollwyr pan ddaw hi’n fater o drafod rhyddfrydoli a chytundebau masnach rydd, ac mae hi’n amlwg o asesiadau effaith Llywodraeth y DU mai amaethyddiaeth yn y DU fydd un o’r collwyr os caiff y cytundebau hyn eu cadarnhau; gydag effeithiau hynny’n fwy amlwg yng Nghymru yn sgil fwy o ddibyniaeth ar ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd.

Mae Aelodau San Steffan wedi mynegi siom yn flaenorol na fydd gofyn i fewnforion bwyd o Awstralia a Seland Newydd gwrdd â safonau cynhyrchu bwyd craidd y DU.  Dyna pam y bu UAC yn galw am fesurau diogelu i sicrhau cyfleoedd cyfartal i gynhyrchwyr, sef yr hyn y cynlluniwyd cwotâu a thariffau ar ei gyfer.

Mae UAC yn dal i bwysleisio y dylai Aelodau San Steffan gyflwyno gwelliannau i’r Bil Masnach sydd – mewn unrhyw fodd – yn creu mesurau diogelu ar gyfer cynhyrchwyr y DU a’r safonau maent yn glynu atynt, sydd ymhlith yr uchaf yn y byd, gan sicrhau, man lleiaf, bod y broses o graffu unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol yn un effeithiol.