Llwyth cyntaf o gig oen Cymreig PGI i’w anfon i’r Unol Daleithiau mewn degawdau yn newyddion da i’r diwydiant medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r newyddion bod y llwyth cyntaf o gig oen Cymreig PGI mewn degawdau wedi’i anfon i’r Unol Daleithiau.

Cafodd y  llwyth cyntaf o gig oen DU ar gyfer yr Unol Daleithiau ers y gwaharddiad ar fewnforion yn 1996 oherwydd y risgiau posib o BSE, ei brosesu yn Dunbia yn Sir Gaerfyrddin, y safle cyntaf yn y DU i gael ei gymeradwyo ar gyfer allforion.

Croesawodd UAC y cyhoeddiad gan Brif Weinidog y DU Boris Johnson ym mis Medi y llynedd bod disgwyl y byddai’r gwaharddiad hirsefydlog yn cael ei godi.

Mae Hybu Cig Cymru wedi dweud y gallai’r farchnad ar gyfer cig oen Cymreig PGI yn yr Unol Daleithiau fod werth cymaint ag £20 miliwn y flwyddyn, o fewn pum mlynedd o gael troedle yn y farchnad, yn ôl yr amcangyfrifon.

Mae UAC wedi hen drafod y posibilrwydd o godi gwaharddiad yr Unol Daleithiau mewn cyfarfodydd amrywiol dros y degawdau diwethaf, ac mae angen y marchnadoedd newydd hyn yn fwy nag erioed erbyn hyn.  Nid yw hyn yn dileu’r angen am farchnad allforio cig coch agosaf a mwyaf y DU yn yr UE, na chwaith y cymorth ychwanegol ar gyfer cynhyrchwyr er mwyn iddyn nhw ymdopi â’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â chyflenwi marchnadoedd pellach i ffwrdd. 

Mae ymchwil gan Hybu Cig Cymru’n awgrymu y gall fod yna alw mawr am gig oen Cymreig, yn enwedig o fewn gwasanaethau bwyd pen ucha’r farchnad a siopau manwerthu ar Arfordir y Dwyrain.

Gyda’i enw da am fwyd, iechyd a lles anifeiliaid a safonau amgylcheddol sydd ymhlith y gorau yn y byd, a chydag oes silff cig oen Cymreig erbyn hyn yn agos at 40 diwrnod, mae marchnad yr Unol Daleithiau yn un y mae ffermwyr Cymru’n awyddus i ddatblygu cysylltiadau llawer cryfach â hi, ac mae hwn yn newyddion i’w groesawu i’r diwydiant defaid yng Nghymru.