UAC yn croesawu’r cyhoeddiad am daliadau BPS ymlaen llaw

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd 97% o ffermwyr sy’n hawlio Cynllun Taliad Sylfaenol yn derbyn taliad ymlaen llaw ar 14eg Hydref 2022.  Cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, y bydd 70% o werth amcangyfrifedig eu hawliad yn cael ei dalu, sy’n golygu y bydd dros £161 miliwn yn cael ei dalu i dros15,600 o fusnesau fferm yng Nghymru.

Bydd busnesau fferm yn derbyn taliadau llawn a gweddill balans BPS 2022 o 15fed Rhagfyr  2022, yn amodol ar ddilysu’r hawliad yn llawn. 

Mae UAC wedi dweud bod hyn yn newyddion gwych i’r sector ac i’r holl fusnesau fferm ledled Cymru a fydd yn derbyn rhandal cyntaf y taliad ar 14eg Hydref, yn enwedig o ystyried yr argyfwng costau byw presennol.  Mae’n gredyd i Lywodraeth Cymru bod y system hon yn gweithio mor dda ac mi ddylai fod yn esiampl i eraill.  Mae’n hanfodol felly bod mecanwaith ariannol o’r fath yn aros yn ei le yn y dyfodol, i sicrhau nad yw busnesau fferm a’r economi wledig ehangach yn dioddef.

Bydd y rhan fwyaf o’r arian sy’n dod i mewn i gyfrifon fferm drwy’r BPS yn mynd allan dros yr wythnosau nesaf i fusnesau eraill sy’n ymwneud yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ag amaethyddiaeth, megis cyflenwyr amaethyddol a milfeddygon, gan gefnogi degau o filoedd o fywoliaethau a busnesau yng Nghymru.

Rhaid cofio hefyd felly bod cynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi newid yn sylweddol, a’u bod yn adlewyrchu nifer o’r materion y bu UAC yn lobïo arnynt ers Brexit a’r ymgynghoriad Tir, megis darparu taliad sylfaenol ar gyfer Gweithredoedd Sylfaenol, a defnyddio RPW Ar-lein a dulliau casglu data presennol.

Mae UAC yn ailddatgan felly ei bod hi’n croesawu’n frwd, nid yn unig y cyhoeddiad am y taliadau BPS, ond hefyd yr ymrwymiad i ddarparu taliad sylfaenol i  bob ffermwr, gan roi’r sefydlogrwydd sydd ei wir angen ar ffermydd teuluol sy’n cynhyrchu bwyd.  Mae UAC wedi nodi’n glir y dylid defnyddio’r rhan fwyaf o’r gyllideb yn y dyfodol i ddarparu’r taliad sefydlogi hwn, yn gyfnewid am y Gweithredoedd Sylfaenol newydd y mae gofyn i ffermwyr eu cyflawni, ar ben y ‘Safonau Gofynnol Cenedlaethol’ newydd.