Crynodeb o newyddion Hydref 2022

Rhagweld y bydd lefelau cynhyrchu grawnfwyd yr UE yn is na’r cyfartaledd

Mae’r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Gomisiwn yr UE yn rhagweld y bydd lefelau cynhyrchu grawnfwyd yr UE 8% yn is na’r llynedd a 5.1% yn is na’r cyfartaledd 5 mlynedd.

Yn y gorffennol mae’r UE wedi llacio rheolau amgylcheddol er mwyn ceisio codi’r lefelau cynhyrchu, gan ganiatáu i ffermwyr blannu cnydau ar ardaloedd amgylcheddol, oherwydd prinder yn sgil y rhyfel yn Wcráin.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos, serch llacio’r rheolau amgylcheddol, bod yr ardal a blannwyd ar draws yr UE 1.3% yn llai na’r cyfartaledd 5 mlynedd.  Yn ogystal â lleihad ym maint yr ardal a blannwyd, mae cyfnod o sychder ar draws yr UE dros yr haf wedi gwaethygu’r sefyllfa, gyda maint y cnydau a gynaeafwyd i lawr 7% o’i gymharu â 2021 a 3% yn is na’r cyfartaledd 5 mlynedd.

 

Meintiau mewnforion cynnyrch llaeth yn tyfu

Mae adroddiad gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) yn dangos bod mewnforion cynnyrch llaeth i’r DU wedi tyfu 11% o’i gymharu â 2021.

Yn sgil y tarfu o ganlyniad i’r pandemig a Brexit, mae’r ffigurau’n dangos bod mewnforion wedi dychwelyd i lefelau 2020.  Oherwydd y cynnydd mewn prisiau mae gwerth y mewnforion wedi codi 30% o’i gymharu â 2021.

Y cwymp yn y lefelau cynhyrchu domestig, ochr yn ochr â galw cynyddol o du’r sector gwasanaethau bwyd yw’r prif ffactorau sy’n debygol o fod wedi achosi’r cynnydd mewn mewnforion.

 

Ffermwyr Seland Newydd yn ddig ynghylch cynigion allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr

Mi allai cynigion gan lywodraeth Seland Newydd olygu mai ffermwyr y wlad honno fydd y cyntaf yn y byd i dalu am allyriadau nwyon tŷ gwydr da byw, dan gynllun newydd.  Mae’r cynllun yn cynnwys trethu’r methan a allyrir gan dda byw yn ogystal â’r ocsid nitrus a allyrir yn bennaf o wrin sy’n llawn gwrtaith.  Erbyn 2025, bydd gofyn i ffermwyr sy’n cwrdd â’r trothwy o ran maint y fuches a defnydd o wrtaith dalu lefi y bydd y llywodraeth yn ei osod bob un i dair blynedd, ar gyngor y Comisiwn Newid Hinsawdd a ffermwyr.

Bwriedir defnyddio’r refeniw o’r lefi i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar ffermydd Seland Newydd drwy daliadau cymhelliant, ymchwil a thechnoleg. 

Mae sefydliadau ffermio yn y wlad wedi ymateb yn ddig i’r cynlluniau, gan honni y bydd  ffermio llaeth yn crebachu 5% a ffermio cig eidion a defaid 20%. 

 

Amcangyfrif bod y sector moch wedi colli £700 miliwn ers Hydref 2020

Mae’r ffigurau diweddaraf a ryddhawyd gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) yn dangos, serch codi prisiau pwysau marw, bod y cynnydd ym mhrisiau mewnbynnau megis porthiant ac ynni wedi cadw’r gost o gynhyrchu uwchlaw’r pris pwysau marw.

Mae cynhyrchwyr moch wedi gwneud colledion parhaus ers Hydref 2020 ac mae AHDB yn amcangyfrif bod y golled gronnol dros £700 miliwn ar draws y sector.

Mae data cenfeintiau moch y DU yn dangos gostyngiad o 17% o un flwyddyn i’r llall yn y genfaint hychod, sy’n tanlinellu’r argyfwng parhaus sy’n wynebu’r sector.