Rhowch adborth ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae arolwg ar y gweill a fydd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ddeall yn well sut y bydd y camau gweithredu a’r prosesau a osodwyd yn y cynigion bras ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn gweithio ar draws gwahanol fathau o ffermydd.

Mae’r arolwg wedi’i gynllunio i ddeall a ydy ffermwyr yng Nghymru’n teimlo y gallant gymryd y camau gweithredu a gynigiwyd yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy bras diweddar, ac os na, beth yw’r prif rwystrau, a pha gymorth pellach fyddai ei angen.

Mae’r camau gweithredu’n ymestyn dros nifer o feysydd gwahanol, o wella perfformiad y busnes a gwella iechyd da byw, i wella dulliau o reoli priddoedd, cynefinoedd a choetiroedd.

Gobeithir y bydd cymaint o ffermwyr â phosib yn cwblhau’r arolwg, i sicrhau bod cynigion y cynllun yn rhai y gellir eu cyflawni.

Mae’r arolwg ar gael ar Arolwg SFS

I ddarparu syniadau neu brofiadau eraill i helpu i ddatblygu’r SFS, mae ffurflen adborth ar gael hefyd.

Bydd yr arolwg a’r ffurflen adborth yn cau ar 21 Tachwedd 2022.  Defnyddir y canlyniadau i lunio ymynghoriad y cynllun terfynol, a gyhoeddir yn 2023, cyn i gyfnod pontio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ddechrau yn 2025.