Cyfrifoldebau perchnogion a meddianwyr tir dros goed sy’n ffinio â’r rhwydwaith mynediad

Dan Adran 154(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980, mae’n ofynnol bod perchnogion a meddianwyr tir yn tocio llystyfiant ar goed, llwyni neu wrychoedd sy’n crogi dros y rhwydwaith mynediad, fel nad ydynt yn peryglu cerbydau, cerddwyr a rhai sy’n marchogaeth ceffylau.  Mae hyn yn berthnasol i ffyrdd a llwybrau troed ond hefyd i lwybrau o fewn ardaloedd y mae gan y cyhoedd fynediad atynt.

Hefyd, dan adran (2) o Ddeddf Priffyrdd 1980, gellir cyflwyno hysbysiad i berchennog neu reolwr tir i dynnu unrhyw wrych, coeden neu lwyn sy’n farw, yn heintiedig, wedi’i ddifrodi neu  â gwreiddiau anniogel.

Os na chaiff y gwaith o dynnu gwrychoedd, coed neu lwyni ei gyflawni a’i fod yn debygol o rwystro neu achosi perygl drwy gwympo ar ddefnyddwyr y rhwydwaith, yna gall awdurdodau lleol gyflwyno hysbysiad i gwblhau’r gwaith o fewn 14 diwrnod.  Gall methu â chydymffurfio â’r hysbysiad o fewn y cyfnod o 14 diwrnod olygu bod yr awdurdod lleol yn cwblhau’r gwaith ac yna’n adennill costau rhesymol gan y perchennog/rheolwr tir.

Mae gofyn hefyd bod ffermwyr yn cadw ar reolau a rheoliadau eraill mewn perthynas â chynnal a chadw coed, gwrychoedd a llwyni.  Mae’r rhain yn cynnwys cynnal a chadw nodweddion tirweddol a geir dan reolau trawsgydymffurfio (GAEC7) sy’n nodi na ellir torri neu docio coed yn ystod y tymor nythu a magu adar, sef 1af Mawrth i 31ain Awst.  Fodd bynnag, nid felly’r achos:

  • Os ydy’r gwrych neu’r goeden yn crogi dros briffordd, ffordd, trac neu lwybr troed y gall y cyhoedd ei ddefnyddio, a bod yn gwaith yn angenrheidiol oherwydd y llystyfiant sy’n crogi drosodd;
  • Os yw’n rhwystro llwybr cerbydau neu gerddwyr; 
  • Os yw’n amharu ar welededd gyrwyr, neu’r golau o lamp gyhoeddus; neu 
  • Os yw’n peryglu rhai sy’n marchogaeth ceffylau
  • Os oes angen torri neu docio gwrych neu goeden am ei bod yn farw, yn heintiedig, wedi’i difrodi neu â gwreiddiau anniogel, a’i bod felly’n debygol o achosi perygl drwy gwympo ar y briffordd, y ffordd neu’r llwybr troed.

Dymchwel coed ynn heintiedig a choed sydd wedi’u heintio â chlefydau eraill

Mae clefyd coed ynn, a achosir gan y pathogen Hymenoscyphus fraxineus yn glefyd difrifol sy’n aml yn lladd coed ynn ifanc, ac a all wanhau coed ynn hŷn yn ddifrifol dros amser.

Os bydd coed ar eich tir chi neu dir a reolir gennych yn mynd yn heintiedig, yna bydd angen ichi ystyried diogelwch y cyhoedd a monitro’ch coed, yn arbennig mewn ardaloedd a ddefnyddir yn fynych gan y cyhoedd.

Wrth reoli coed sydd wedi’u heintio â chlefyd coed ynn mae yna bosibilrwydd o farwolaeth neu anaf o ganlyniad i ddamweiniau, i’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar y coed yn ogystal â’r cyhoedd yn gyffredinol, gyda mwy o atebolrwydd mewn achosion o farwolaeth neu anaf.

Gellir gwneud cais am esemptiad rhag cael trwydded cwympo coed ar gyfer coeden heintiedig, ond dim ond os oes yna berygl go iawn yn hytrach na pherygl tybiedig.  Gall fod angen tystiolaeth i gefnogi’r lefel o berygl os hawlir esemptiad.

Os bydd angen trwydded cwympo coed, gallwch wneud cais am drwydded o’r fath gan Cyfoeth Naturiol Cymru.