UAC yn beirniadu ASDA am roi’r gorau i’w gefnogaeth 100% i Gig Eidion Prydeinig

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi ysgrifennu at ASDA ynghylch penderfyniad yr archfarchnad i gamu’n ôl o’i haddewid i werthu 100% cig eidion ffres Prydeinig, wythnosau’n unig ar ôl rhoi’r addewid ar waith.

Daw’r llythyr ar ôl i ffermwyr o bob rhan o Gymru gysylltu â’r Undeb i fynegi eu dicter a’u siom.


Mae UAC wedi cwrdd â chynrychiolwyr o ASDA ar sawl achlysur yn ystod y pandemig, i drafod pwysigrwydd cefnogi cynhyrchwyr o Gymru a’r DU ar adeg pan oedd cadwyni cyflenwi bwyd byd-eang yn gyfnewidiol iawn.


Felly, cafodd yr ymrwymiad i werthu llaeth, tatws a chig eidion ffres Prydeinig yn unig, ar ôl i’r manwerthwr werthu cyfran fwyafrifol, ei groesawu.


Mae’r llythyr yn dweud bod y penderfyniad diweddar i dynnu nôl o’r addewid i werthu 100% cig eidion ffres Prydeinig, a hynny ar ôl deufis yn unig o wneud hynny, wedi bod yn sioc i aelodau UAC, yn enwedig o ystyried bod manwerthwyr mawr eraill wedi ymrwymo i gynnal addewidion o’r fath er gwaethaf amodau presennol y farchnad.”

Er bod sector cig coch y DU wedi gweld prisiau calonogol dros y deuddeg mis diwethaf, ysgrifennodd Mr Roberts, rhaid ystyried hyn yng nghyd-destun y toriadau sydd eisoes wedi’u gwneud i daliadau cymorth fferm yn Lloegr, costau mewnbwn uwch, problemau’r gadwyn gyflenwi y mae ASDA hefyd wedi profi, ac ansicrwydd ynghylch mwy o fiwrocratiaeth, cymorth amaethyddol yn y dyfodol ac effaith cytundebau masnach.

Er enghraifft, yn ystod yr wythnos yn diweddu 1af Ionawr 2022 roedd pris pwysau marw Prydain ar gyfer wartheg 10% yn uwch ar gyfartaledd, o un flwyddyn i’r llall, tra bod prisiau gwrtaith Prydain yn Nhachwedd 2021 153% yn uwch ar gyfartaledd na lefelau 2020.

Yng ngoleuni’r ansicrwydd a’r ansefydlogrwydd mawr sy’n wynebu diwydiant amaethyddol y DU, mae UAC yn annog ASDA i ailystyried ei hymrwymiad i werthu 100% cig eidion ffres Prydeinig, er mwyn rhoi sicrwydd i gynhyrchwyr y DU na fyddan nhw’n cael eu disodli yn y dyfodol.