Y cynnydd mewn prisiau ynni yn anghynaliadwy yn ôl UAC

Mae Pwyllgor Llaeth a Chynnyrch Llaeth Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi rhybuddio nad yw’r prisiau ynni cynyddol yn gynaliadwy ar gyfer y sector.

Daw’r rhybudd yn sgil adroddiadau gan ffermwyr llaeth bod eu costau ynni wedi codi gymaint â £1000 y mis, gyda’r disgwyliad y bydd y costau’n cynyddu ymhellach.

Mae’r sector ffermio yn gyffredinol eisoes dan bwysau enfawr. Mae’r cynnydd mewn prisiau ynni, gydag adroddiadau, mewn rhai achosion, o gynnydd o £1,000 y mis i fusnesau llaeth, yn ergyd i bawb yn y diwydiant.

Er bod gan fusnesau fferm gontractau gwahanol i ddaliadau preifat mewn perthynas â’u cyflenwyr ynni, mae’r broblem gyffredinol yn aros yr un fath.

Mi fydd yna nifer o ddaliadau fferm sydd angen adnewyddu eu contractau ynni eleni, ac mi fyddant, yn ddiamau, yn wynebu prisiau uwch. Mi allai hyn, ar ben prisiau bwydydd anifeiliaid a gwrtaith uwch, fod yn ormod i rai busnesau.

Mae UAC wedi ysgrifennu at Y Gwir Anrhydeddus Kwasi Kwarteng AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, i’w annog i ystyried a gweithredu polisïau a fyddai’n negyddu effeithiau difrifol y cynnydd mewn prisiau ynni ar fusnesau Cymru a’r DU.