Crynodeb o newyddion Ionawr 2022

i) 93% o ffermydd Cymru wedi cael eu taliadau BPS 2021 llawn neu olaf

Ar 15fed Rhagfyr 2021, cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths fod dros 93% o fusnesau fferm Cymru wedi derbyn eu taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) llawn neu olaf.

Roedd hyn yn uwch na nifer y taliadau a wnaed yn gynnar yn ffenestr 2020, ac yn golygu bod £227 miliwn wedi’i dalu i dros 15,000 o ffermwyr ledled Cymru, gan gynnwys y taliadau ymlaen llaw a wnaed ym mis Hydref.

Serch hynny, mae UAC yn annog Llywodraeth Cymru i brosesu’r taliadau BPS 2021 sydd ar ôl mor gyflym â phosib.


ii) Ad-drefnu Plaid Cymru yn sgil y Cytundeb Cydweithio

Mae Plaid Cymru wedi’i had-drefnu’n ddiweddar fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Lafur Cymru, gyda Cefin Campbell, AS, yn cael ei ethol fel yr Ail Aelod Dynodedig.

Mae gan Heledd Fychan AS, Sioned Williams AS a Mabon ap Gwynfor AS rolau newydd ill tri, gyda Mabon ap Gwynfor yn dod yn llefarydd newydd Plaid Cymru ar Amaethyddiaeth a Materion Gwledig.

 

iii) Y manwerthwr Aldi’n parhau i gefnogi cynhyrchwyr bwyd Prydeinig trwy gydol y pandemig

Mae’r manwerthwr mawr Aldi wedi cyhoeddi ei fod wedi gwario £1.6 biliwn ychwanegol gyda chyflenwyr Prydeinig ers dechrau pandemig Covid-19. Mae hyn yn cynnwys £125 miliwn ar gig, dofednod a chynnyrch llaeth Prydeinig.

Ochr yn ochr â’i ymrwymiad i werthu 100% cig ffres a chynnyrch llaeth Prydeinig, mae Aldi wedi ailadrodd ei addewid i wario £3.5 biliwn ychwanegol bob blwyddyn gyda busnesau Prydeinig erbyn diwedd 2025.