Ffermwyr Ceredigion yn treialu ymgyrch sgrinio’r coluddyn y GIG

Cafodd cymuned ffermio Ceredigion ei dewis i fod yn rhan o brosiect peilot i roi gwybod i bobl am ganser y coluddyn a sgrinio’r coluddyn.

Mae ffermwyr, eu teuluoedd a’u gweithwyr yn cael eu hannog i fod yn ymwybodol o symptomau canser y coluddyn, ac i fanteisio ar y prawf sgrinio sydd ar gael am ddim i bobl sy’n 60 oed neu’n h?n.

Mae’r ymgyrch codi ymwybyddiaeth yn dod yn sgil partneriaeth unigryw rhwng Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac Undeb Amaethwyr Cymru (UAC).

Mae UAC wedi cytuno i helpu i godi ymwybyddiaeth o raglen sgrinio’r coluddyn y Gwasanaeth Iechyd, fel rhan o broject peilot gydag Adran Ymgysylltu â Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru. Os bydd y prosiect yn llwyddiant, bydd yn cael ei ymestyn i gynnwys rhannau eraill o Gymru.

Bydd y prosiect peilot yn cynnwys cyflwyniad ar sgrinio’r coluddyn yng nghyfarfod cangen Ceredigion o’r undeb yn Aberaeron ar 10 Ebrill. Bydd croeso i deuluoedd a gweithwyr fferm sy’n awyddus i ddysgu mwy am ganser y coluddyn a sgrinio’r coluddyn i ddod i’r cyfarfod yma.

Ar ôl y cyfarfod, bydd pob aelod o gangen Ceredigion o UAC yn cael gwybodaeth am sgrinio’r coluddyn gyda’r rhifyn nesaf o gylchlythyr y sir. Bydd stondinau gwybodaeth hefyd yn amryw o’r marchnadoedd a’r sioeau amaethyddol sydd i’w cynnal ar hyd a lled y sir.

Dywedodd Alison Clement, un o arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Ymgysylltu â Sgrinio: “Rydym yn hynod o falch fod Undeb Amaethwyr Cymru’n ein helpu i roi gwybodaeth am ganser y coluddyn a’r rhaglen sgrinio i’r ffermwyr eu hunain, i’w teuluoedd a’u gweithwyr hefyd.

“Mae sgrinio’r coluddyn yn lleihau’r risg o farw o ganser y coluddyn, ac mae’r prawf ar gael bob dwy flynedd i ddynion a merched sydd rhwng 60 a 74 oed. Rydym yn anfon pecyn y prawf i gartrefi pobl, ac nid oes angen i unrhyw un deithio i ysbyty neu i feddygfa’r meddyg teulu.

“Roedd nifer y bobl a fanteisiodd ar y cyfle i gael prawf sgrinio’r coluddyn wedi gostwng yn ystod blynyddoedd cyntaf y rhaglen, ond mae’r niferoedd yn codi eto. Er bod hyn yn galonogol iawn, mae llawer o bobl o hyd ddim yn manteisio ar y cyfle i gael prawf sgrinio.”

Ychwanegodd: “Er bod canser y coluddyn yn fwy cyffredin mewn pobl h?n, mae’n gallu effeithio ar bobl o bob oed. Mae’n bwysig, felly, fod pobl yn gallu adnabod symptomau canser y coluddyn, ac yn gwybod sut mae lleihau’r risg.”

Dywedodd Emyr Jones, llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, fod yr undeb yn awyddus i weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn y dasg o wneud aelodau’r gymuned ffermio’n fwy ymwybodol o bwysigrwydd profion sgrinio’r coluddyn.

Dywedodd, "Mae rhwystrau’n gysylltiedig â byw yng nghefn gwlad o ran rhoi blaenoriaeth i ofal iechyd. Ymhlith y rhwystrau mae’r ffaith fod ffermydd yn ynysig; ymrwymiadau ffermwyr yn ystod y tymhorau wyna a chynaeafu; diffyg systemau cymorth os nad oes gan ffermwr deulu, cymdogion neu gymuned; ffermwyr yn rhoi blaenoriaeth i iechyd a lles eu hanifeiliaid; a chysylltiadau cludiant gwael i hwyluso’r broses o ddod i gael profion sgrinio neu gadw apwyntiadau meddygol eraill.

"Nod y project a’r bartneriaeth yw helpu i annog ffermwyr, eu teuluoedd, eu gweithwyr a’r gymuned ffermio ehangach i gymryd rhan reolaidd yn y rhaglen sgrinio.”

Ychwanegodd Mr Jones: "Bydd y project yn canolbwyntio yn y lle cyntaf ar sgrinio’r coluddyn. Ond, os bydd yn llwyddiant, efallai byddwn yn rhoi pecyn tebyg ar waith ar gyfer y rhaglenni sgrinio eraill fel sgrinio am ymlediadau aortig abdomenol, sgrinio’r fron a sgrinio gwddf y groth.”