UAC YN PWYSLEISIO PWYSIGRWYDD AELODAETH O’R UE YN YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

Bydd Undeb Amaethwyr Cymru yn amlygu pwysigrwydd cyllid yr UE i’r gymuned amaethyddol a’r economi wledig Gymreig yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol, sydd i’w chynnal yn Ninbych yr wythnos nesaf (Awst 3-10).

"Bydd ymwelwyr a’r stondin Undeb Amaethwyr Cymru yn cael y cyfle i ddysgu rhagor am y rheswm pam bod hi’n hanfodol i Gymru, ynghyd â'r DU gadw ei haelodaeth o'r UE," meddai swyddog gweithredol sirol, canghennau Dinbych a Fflint Rhys Roberts.

Un o uchafbwyntiau'r wythnos fydd fforwm ar y stondin i drafod manteision ac anfanteision aelodaeth yr UE i Gymru a'r DU a fydd y panel yn cynnwys gwleidyddion o’r Blaid Geidwadol, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig ynghyd ag aelod o dîm llywyddol yr undeb.

Thema ganolog y stondin fydd Coron yr Eisteddfod, a fydd yn cael ei chyflwyno i'r bardd buddugol am 4.30yp ar brynhawn Llun Awst 5 am gasgliad o gerddi digynghanedd heb fod dros 250 o linellau.  Teitl y gwaith yw Terfysg.

Bydd yr enillydd yn derbyn Coron yr Eisteddfod a gwobr ariannol o £750. Mae’r Goron yn rhodd gan ganghennau siroedd Dinbych a Fflint o Undeb Amaethwyr Cymru a'r wobr ariannol gan Gymdeithas Tai Clwyd Cyf.

"Cafodd y Goron ei chynllunio i amlygu tirweddau godidog Dyffryn a Mynyddoedd Clwyd a bydd y thema yn arddangos y cysylltiadau rhwng, a dylanwad amaethyddiaeth a'r dirwedd a sut mae hynny wedi ffurfio dros amser," dywedodd Mr Roberts.

"Drwy gydol yr wythnos byddwn hefyd yn canolbwyntio ar y cysylltiadau rhwng cyllid yr UE, arferion amaethyddol a rheolaeth amgylcheddol," ychwanegodd.

Bydd ymwelwyr a'r stondin yn cael pot o iogwrt blasus Llaeth y Llan, Llannefydd, a noddir yn garedig gan y perchnogion Falmai a Gareth Roberts.

Bydd cyfle hefyd i flasu amrywiaeth o gawsiau sydd wedi ennill llu o wobrau gan yr hufenfa leol, Hufenfa Llandyrnog sydd hefyd yn cyflenwi'r llaeth ar gyfer y paned o de neu goffi traddodiadol.

Ychwanegodd Mr Roberts: "Bydd arddangosfa o fwyd a diod a gynhyrchir yn lleol yn dwyn sylw at yr amrywiaeth o gynnyrch sydd ar gael yn Nyffryn Clwyd.  Bydd yn gyfle gwych i aelodau a'r cyhoedd i brofi rhai o'r bwydydd gorau a gynhyrchir yn lleol a chael cyfle ar un pryd i ddysgu am y cysylltiadau rhwng ffermwyr, cynhyrchwyr a'r UE. "

Bydd yr artist lleol Llinos Angharad Rogers, merch aelodau UAC, Huw a Glenda Rogers o Fferm Lodge, Dinbych yn bresennol ar ddydd Gwener 9 Awst i arddangos ei gwaith celf ac yn creu darn newydd ar y stondin.

Ar ddydd Mawrth 6 Awst, bydd artist lleol arall, Elen Mair Jones hefyd yn arddangos ei sgiliau braslunio ac enghreifftiau o'i gwaith i’r ymwelwyr.

Trwy gydol yr wythnos, bydd plant o bob oedran yn medru cymryd rhan mewn cystadlaethau sy'n gysylltiedig â’r Goron ac i gynhyrchu bwyd, a bydd ystod o wobrau ar gael i'r enillwyr.

Bydd staff o Davis Meade Property Consultants o Groesoswallt hefyd yn bresennol ar ddydd Iau Awst 8 i gynnig cyngor ar ystod eang o faterion i aelodau UAC.

"Ry dym hefyd yn edrych ymlaen at groesawu'r ACau ac ASau lleol i'r stondin i drafod materion cyfoes megis diwygio'r PAC dros baned o de," meddai Mr Roberts.

 

[caption id="attachment_2487" align="aligncenter" width="300"]Andrew Coomber, arlunydd a’r gof arian o Sir Fflint sydd wedi cynllunio a gwneud y Goron a gafodd ei hysbrydoli gan liw a delweddau amaethyddol Dyffryn Clwyd a Moel Famau ac sy’n adlewyrchu nodweddion telynegol y dirwedd mewn cytgord â thechnoleg a deunyddiau modern Andrew Coomber, arlunydd a’r gof arian o Sir Fflint sydd wedi cynllunio a gwneud y Goron a gafodd ei hysbrydoli gan liw a delweddau amaethyddol Dyffryn Clwyd a Moel Famau ac sy’n adlewyrchu nodweddion telynegol y dirwedd mewn cytgord â thechnoleg a deunyddiau modern[/caption]