HANES CORON EISTEDDFOD DINBYCH 2013, A NODDIR GAN UAC, AR GOF A CHADW

Mae hanes cynllunio a chreu’r goron barddol, a noddir gan Undeb Amaethwyr Cymru ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych eleni yn cael ei groniclo ar ffilm.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ariannu’r ffilm gan yr arlunydd a’r gwneuthurwr ffilmiau proffesiynol Chris Oakley, ac mi fydd yn cael ei dangos yn ystod yr Eisteddfod yn Ninbych (Awst 2-10) ac yn ddiweddarach yng nghanolfan crefftau Rhuthun, Oriel Wrecsam a Phrifysgol Glynd?r.

Cafodd Andrew Coomber, yr arlunydd a’r gof arian o Sir Fflint ei gomisiynu gan ganghennau sirol Dinbych a Fflint o UAC i gynllunio a chreu’r goron sydd yn seiliedig ar liw a delweddaeth amaethyddol Dyffryn Clwyd a Moel Famau ac yn adlewyrchu rhinweddau telynegol y dirwedd mewn cytgord a thechnoleg fodern a deunyddiau.

Gyda chytundeb yr Eisteddfod a UAC, cynhaliwyd y prosiect fel prosiect addysgol a ariannwyd yn allanol.  Ffurfiodd pedwar myfyrwyr gradd celfyddyd gymhwysol blwyddyn olaf o Brifysgol Glynd?r, Wrecsam tîm i gefnogi’r artist.

Dywedodd llywydd cangen Sir Ddinbych o UAC Eryl Hughes: "Mae aelodau siroedd Dinbych a Fflint yn hynod o falch bod yr undeb yn darparu'r goron ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

"Mae'n briodol iawn bod Undeb Amaethwyr Cymru yn gweithio mor agos gyda’r Eisteddfod Genedlaethol gan mai prif nod yr undeb yw diogelu a hyrwyddo lles y rhai sy’n derbyn incwm o amaethyddiaeth yng Nghymru.

"Mae dyluniad y goron yn dangos yn glir sut mae ffermio wedi goroesi mewn cydbwysedd â natur, sy’n galluogi bwyd i gael ei gynhyrchu mewn ffordd gynaliadwy a sicrhau natur i ffynnu a’r gymdeithas i elwa o ystod eang o wasanaethau sy’n cael eu darparu gan yr amgylchedd naturiol.”

Dywedodd arweinydd academaidd ar gyfer y diwydiannau creadigol, y cyfryngau a pherfformio Stuart Cunningham: “Rydym yn hynod o falch bod Andrew wedi dewis myfyrwyr Prifysgol Glynd?r i weithio gydag ef ar brosiect mor bwysig.

"Mae'r brifysgol bob amser yn awyddus i roi cyfle i fyfyrwyr i weithio ar brosiectau go iawn, ac mae hyn yn enghraifft arall o hynny.

"Mae Andrew yn grefftwr hynod o brofiadol ac rwy'n si?r y bydd y wybodaeth a'r profiad y mae wedi trosglwyddo i'r myfyrwyr o fudd aruthrol iddyn nhw."

Wrth ddisgrifio cynllun y goron, dywedodd Mr Coomber: “Mae’r rhan uchaf yn adlewyrchu lliw a rhinweddau bryniau Clwyd a Moel Famau islaw gyda gwerthoedd troellog a llinellog ffyrdd, llwybrau a ffensiau’r ardal, gan greu gwrthgyferbyniad gyda’r paneli lliw sy’n cynrychioli lliwiau’r caeau ar wahanol adegau o’r tymor yn y dyffryn gwledig.

“Crëwyd y goron drwy ddefnyddio pedwar panel alwminiwm wedi’u lliwio a’u hanodeiddio, a’r cyfan wedi’u trosgaenu gyda fframiau arian wedi’u gofannu â llaw.

“Mae'r rhain wedi'u cysylltu â'i gilydd gyda strwythurau tebyg i giât/camfa sy'n cael eu peiriannu gyda chludwyr neilon sy’n lledu er mwyn addasu’r goron ar gyfer unrhyw faint.

“Mae tua 150 o ddarnau unigol wedi’u cyd-osod gan ddefnyddio nytiau a bolltau bychain, yn atgyfnerthu’r cysyniad o beirianneg yn y tirwedd. Mae dehongliad gwydr o D?r y Jiwbilî ar Foel Famau wedi’i osod ar ben y Goron.

“Mae’r ‘waliau’ crisial wedi’u henamlo gyda’r gair ‘bardd’ yn cael ei ailadrodd mewn patrwm wal garreg. Mae’r defnydd porffor yn y Goron wedi’i liwio â llaw ac mae’n cynrychioli lliw’r grug ar fryniau Clwyd ym mis Awst.

 

[caption id="attachment_2487" align="aligncenter" width="300"]Andrew Coomber with the FUW-sponsored crown. Andrew Coomber gyda’r goron a noddir gan UAC[/caption]

[caption id="attachment_2488" align="aligncenter" width="300"]CROWN PRESENTATION: FUW’s Denbighshire county president Eryl Hughes and Flintshire county president Clwyd Spencer (centre) present the crown to Denbigh Eisteddfod committee chairman John Glyn Jones (right). CYFLWYNO’R GORON: Llywydd cangen sir Ddinbych o UAC Eryl Hughes a llywydd sir Fflint Clwyd Spencer (canol) yn cyflwyno’r goron I gadeirydd pwyllgor Eisteddfod Dinbych John Glyn Jones (dde).[/caption]