UAC O GYMORTH I SICRHAU LLWYDDIANT TAITH GERDDED AR DRAWS CYMRU

Mae swyddogion Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhoi eu cefnogaeth i daith gerdded noddedig 200 milltir ar draws Cymru sy’n cael ei arwain gan y tenor Cymreig, Rhys Meirion.

O Orffennaf 13-20 bydd Rhys yn arwain yr ail daith Cerddwn Ymlaen ar draws Cymru ac yn cael cwmni 14 o gerddwr arall gan gynnwys hyfforddwr rygbi Cymru Robin McBryde, Gerallt Pennant o S4C, y cyflwynydd teledu Iolo Williams, y digrifwr Cymreig Tudur Owen a’r ffermwr, Arwyn Davies.

Bu Llywydd UAC Emyr Jones a cynrychiolydd De Cymru'r Pwyllgor Cyllid a Threfn yr Undeb Brian Thomas yn cwrdd â Rhys ac Arwyn yn Eisteddfod yr Urdd wythnos yma i drafod trefniadau ar gyfer yswirio’r daith gerdded.

Darparwyd yr yswiriant ar gyfer y daith llynedd gan yr Undeb a diolch i’r gefnogaeth hynny llwyddwyd i godi dros  £91,000 i wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae Cerddwn Ymlaen eleni’n debygol o fod yn fwy o achlysur gyda rhyw 25 o gerddwr ar y briffordd bob dydd ynghyd a channoedd o bobl yn cerdded y cymalau cyhoeddus oddi ar y ffordd.

Dywedodd Rhys: “Rwy’n hynod o ddiolchgar i Emyr Jones ac UAC am gymryd yr amser i ddod yma i gyfarfod ni ar Faes yr Eisteddfod ac am yr holl gymorth arbenigol i drefnu’r yswiriant priodol.

Rydym wedi cael llawer o gyngor oddi wrth UAC.  Maent wedi bod o gymorth mawr i ni wrth drefnu’r yswiriant hyd yma”

 

[caption id="attachment_2418" align="aligncenter" width="300"]From left, Emyr Jones, Rhys Meirion, Arwyn Davies and Brian Thomas. From left, Emyr Jones, Rhys Meirion, Arwyn Davies and Brian Thomas.[/caption]