GWEINIDOG YN LANSIO GWOBR BUSNES CEFN GWLAD UAC, CANGEN SIR BENFRO YN EISTEDDFOD YR URDD

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi bod yn cydweithio â ffermwyr ifanc Sir Benfro yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd er mwyn hyrwyddo ffermio yn ogystal â gwaith cymunedol ac elusennol yn y sir.

Rhannodd CFfI Sir Benfro stondin gyda UAC lle cynhaliwyd nifer o weithgareddau, gan gynnwys arddangosfeydd a chystadlaethau drwy gydol yr wythnos.

Roedd y gweithgareddau’n cynnwys lansio Gwobr Busnes Cefn Gwlad UAC, cangen Sir Benfro ar ei newydd wedd heddiw gan Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Alun Davies.

Mae’r wobr ar gyfer unigolyn 40 mlwydd oed neu iau sydd wedi datblygu busnes gwledig ei hunan ac sydd yn neu wedi bod yn weithgar gyda CFfI Sir Benfro naill ai fel aelod, cyn aelod, arweinydd clwb neu hyfforddwr.

Yn siarad o faes yr Eisteddfod, dywedodd y Gweinidog: “Rwy’n hynod o falch i gael y cyfle i lansio'r wobr hon sy'n cydnabod y gwaith gwych y mae pobl ifanc yn ei wneud i gefnogi economi wledig Sir Benfro.

"Mae'r wobr yn dangos y pwysigrwydd o gadw busnes yng nghalon y diwydiant ffermio. Mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod pobl sy'n ymdrechu i ddarparu busnesau amaethyddol proffesiynol, proffidiol a chynaliadwy yn ystod y cyfnod hwn o newid mawr. "

"Rydym yn chwilio am geisiadau oddi wrth ystod eang o bobl gan gynnwys y rheiny sy’n ffermio yn rhinwedd eu hunain," ychwanegodd Rebecca Voyle, Swyddog Gweithredol UAC, cangen Sir Benfro.

"Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr fod yn rheiny sy'n darparu gwasanaeth i'r sector amaethyddol neu’n bobl sydd wedi dechrau busnes yng nghefn gwlad megis gwneud cacennau, gwasanaethau trydanol, crefftau neu ddysgu cerddoriaeth.  Mae'r rhestr yn ddiddiwedd.

"O gyflwyno’r wobr hon rydym yn gobeithio amlygu’r gwaith ardderchog mae pobl ifanc yn ei wneud i gadw ardaloedd gwledig Sir Benfro yn llefydd bywiog ac economaidd weithgar."

I fod yn gymwys ar gyfer y wobr mae'n rhaid i'r unigolyn fod yn: -

  • 40 mlwydd oed neu’n iau ar 1 Ionawr 2013
  • Cymryd rhan weithredol mewn busnes gwledig yn Sir Benfro
  • Gysylltiedig gyda CFfI Sir Benfro unai fel aelod, cyn aelod, arweinydd clwb neu hyfforddwr

Bydd gwobr ariannol, tlws parhaol ac aelodaeth blwyddyn am ddim gydag Undeb Amaethwyr Cymru yn cael eu gwobrwyo i'r enillydd yn ystod Sioe Sir Benfro (Awst 13-15).

Mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau i swyddfa UAC yn Sir Benfro yn 3 North Street, Hwlffordd erbyn 5yp ar ddydd Mercher Gorffennaf 10.  Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar stondin UAC yn ystod yr Eisteddfod.

"Mae’n rhaid i rheiny sy’n enwebu rhywun gael caniatâd y person cyn rhoi’r enw ymlaen am y wobr," meddai Mrs Voyle.

Noddwyd Medal Gelf yr Eisteddfod gan UAC, cangen Sir Benfro a cynhaliwyd nifer o weithgareddau ar stondin yr Undeb gan gynnwys cwis i’r plant hyd at 11 mlwydd oed yngl?n â’r gwahanol fathau o ffermio a’r rhan mae gwenyn yn eu chwarae yn y broses o gynhyrchu bwyd.  Y wobr fydd set fferm i blentyn.

Roedd gan y CFfI arddangosfa o rai o gynigion y clybiau yng nghystadlaethau’r rali sirol eleni a gwybodaeth am y gwahanol weithgareddau y mae aelodau’r CFfI yn cymryd rhan mewn gan gynnwys  gwaith elusennol a chymunedol.

[caption id="attachment_2412" align="aligncenter" width="300"]Alun Davies (ail o’r dde) ar stondin UAC gyda swyddogion yr Undeb (o’r chwith) dirprwy lywydd Glyn Roberts, cadeirydd sir Benfro John Savins (cefn), is gadeirydd y sir Hywel Vaughan, is lywydd Richard Vaughan a chynrychiolydd de Cymru ar Bwyllgor Cyllid a Threfn canolog yr Undeb Brian Thomas Alun Davies (ail o’r dde) ar stondin UAC gyda swyddogion yr Undeb (o’r chwith) dirprwy lywydd Glyn Roberts, cadeirydd sir Benfro John Savins (cefn), is gadeirydd y sir Hywel Vaughan, is lywydd Richard Vaughan a chynrychiolydd de Cymru ar Bwyllgor Cyllid a Threfn canolog yr Undeb Brian Thomas[/caption]