UAC YN CLYWED CAIS AM SWYDDI A CHARTREFI ER MWYN GWARCHOD YR IAITH GYMRAEG

Mae’n rhaid i fyfyrwyr prifysgol Cymraeg eu hiaith a fagwyd yn ardaloedd gwledig Cymru gael pob cyfle i ddychwelyd i swyddi a chartrefi yn eu cymunedau er mwyn gwarchod yr iaith.  Dyma a ddywedwyd wrth Bwyllgor Dwyieithrwydd a Chyhoeddusrwydd Undeb Amaethwyr Cymru yn ddiweddar.

Pwysleisiodd y siaradwraig gwadd, Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion bod rhaid gwneud pob ymdrech i gymell pobl ifanc i siarad Cymraeg a rhoi digon o gyfleoedd iddynt ddefnyddio'r iaith yn eu gweithle.

"Ond dylai aelodau h?n o staff sy’n gweithio ar gyfer unrhyw sefydliad hefyd gael eu cymell a'u hannog naill ai i ddysgu'r iaith neu i wella eu sgiliau iaith Gymraeg ymhellach," meddai.

Amlygodd y Cynghorydd ap Gwynn y pwysigrwydd o sefydliadau sy'n gweithredu yn y Gymraeg, ac sy’n gwasanaethu'r gymuned drwy gyfrwng y Gymraeg, i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg ifanc yn cael eu cyflogi yn eu hardaloedd lleol.

"Yng Ngheredigion mae gweithgareddau’r clybiau ffermwyr ifanc a'r Urdd yn gymaint o hwyl i siaradwyr Cymraeg ifanc sy'n mynd i'r brifysgol ac yna sy’n dychwelyd adref am eu bod nhw’n dal i deimlo'n rhan o'r gymuned ac yn perthyn i'r rhwydwaith cymdeithasol.

"Mae’n rhaid i ni gydnabod y ffaith bod yna newid ym mhatrymau iaith, ond, er bod y nifer o blant tair i bymtheg oed wedi syrthio o fewn sir Ceredigion o 1,000, mae canran y rhai sy'n siarad Cymraeg wedi cynyddu o 78 y cant i 82 y cant."

Yn dilyn cyflwyniad y Cynghorydd ap Gwynn sbardunwyd trafodaeth fywiog ar sut y gallai ffermwyr integreiddio mwy o Gymraeg i’w busnesau, pa wasanaethau oedd ar gael i'w cynorthwyo i gyflawni hyn a'r polisïau dylai ysgolion eu mabwysiadu er mwyn cadw’r iaith i ffynnu.

Yn ystod y cyfarfod, ail-etholwyd Mansel Charles, cynghorydd sir yn Sir Gaerfyrddin fel cadeirydd y pwyllgor ac Eryl Hughes, ffermwr o Fetws y Coed fel is-gadeirydd.