UAC YN HYBU’R ECONOMI WLEDIG YN YSTOD DIWRNOD CEREDIGION YN SAN STEFFAN

Bydd cynrychiolaeth gref o’r sector amaethyddol i’w weld yn ystod Diwrnod Ceredigion a gynhelir yn San Steffan yn ddiweddarach y mis hwn.  Trefnir y digwyddiad gan gangen sir Ceredigion o Undeb Amaethwyr Cymru a'r AS lleol Mark Williams.

Mae'r digwyddiad ar Chwefror 27 yn gyfle i roi sylw unigryw i straeon o lwyddiant economi wledig Ceredigion drwy arddangos cynhyrchwyr bwyd a diod lleol ochr yn ochr â ffigurau blaenllaw o'r cyngor sir, papur newydd y Tivy-Side Advertiser, Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a busnesau arall.

Bydd y gynrychiolaeth o Undeb Amaethwyr Cymru - llywydd Emyr Jones, dirprwy lywydd Glyn Roberts, swyddog gweithredol sir Ceredigion Caryl Wyn-Jones a swyddogion sirol eraill - yn cyfarfod ASau Cymreig, yr Arglwydd Elystan Morgan o Aberteifi a chyn ddirprwy ysgrifennydd cyffredinol UAC yr Arglwydd Morris o Aberafan i drafod pwysigrwydd hyrwyddo a chefnogi'r economi wledig leol yng Nghymru.

Dywedodd Miss Wyn-Jones: "Mi fydd gan Geredigion gynrychiolaeth dda gydag amrywiaeth o gwmnïau a sefydliadau’r sir yn bresennol.  Rydym yn edrych ymlaen at rannu’r diwrnod yma gyda chynhyrchwyr bwyd a diod lleol megis Siocledi Sarah Bunton, Siop Fferm Llwynhelyg, Toloja Orchards, Tregroes Waffles a Teifi Cheese a fydd yn arddangos eu cynnyrch.

"Mae gan Geredigion gyfoeth o fusnesau gwledig arloesol ac entrepreneuraidd sy'n rhoi llwyfan cryf yn ystod cyfnodau economaidd anodd, ac rydym yn credu ei bod yn hanfodol bwysig bod yr unigolion allweddol yma sy'n gyfrifol am yrru ein heconomi leol ymlaen yn cael y cyfle i siarad wyneb-yn-wyneb gyda'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau."