UAC YN YSWIRIO ENILLYDD PICK-UP FFERM FFACTOR

Un peth yw ennill cerbyd 4x4 newydd sbon, ond peth arall yw cael ei yswirio am ddim am flwyddyn.

Ond dyna sydd wedi digwydd i Dilwyn Owen o Sir Fôn, ennillydd Fferm Ffactor 2013 pan ddaeth Undeb Amaethwyr Cymru i’r adwy a chynnig yswirio yr Isuzu D-Max Yukon newydd sbon  iddo am flwyddyn, yn rhad ac am ddim.

“Drwy gael ei goroni’n ffarmwr gorau Fferm Ffactor 2012, rydym ni’n Sir Fôn yn ymfalchio yng nghamp Dilwyn,” meddai swyddog lleol Undeb Amaethwyr Cymru Ann Harries.

Fe ychwanegodd: “Rydym yn falch o gael ein cysylltu gyda’i gamp  a thrwy gynnig y nawdd fel hyn rydym yn dangos ein cefnogaeth i ffermwyr ifanc ar draws Cymru.”

Mae Dilwyn, sy’n 34 mlwydd oed ac o Lanedwen, Sir Fon, yn ffermio gwartheg a defaid yn ogystal a chontractio. Bu cystadlu brwd rhyngddo ef a’r cystadleuwyr terfynol eraill Geraint Jenkins o Dalybont a Gethin Owen o Fetws yn Rhos i ennill y cerbyd Isuzu newydd sbon a theitl Fferm Ffactor.

“Dwi wrth fy modd hefo’n Isuzu newydd, ac mae cael yswiriant am ddim arni hefyd yn coroni’r holl beth i mi,” meddai.

“Ar ddiwrnod cynta’r ffilmio, doeddwn i’m wedi dychmygu ennill, ond fel digwyddodd petha, mae o wedi bod yn un o’r profiadau gorau dwi erioed wedi ei gael. Gyda’r bumed gyfres yn agosau, mi fyswn i’n annog unrhyw un i fynd amdani, mae’n gyfle rhy dda i’w golli.”

Ers y gyfres gyntaf yn 2009, mae Fferm Ffactor wedi mynd o nerth i nerth, ac mi fydd y bumed gyfres yn cael ei darlledu yn nhymor yr Hydref 2013.

Mae’r cynhyrchwyr Cwmni Da yn derbyn enwebiadau tan y 31ain o Fawrth. I ymgeisio neu i enwebu ffrind neu berthynas cysylltwch a chriw Fferm Ffactor ar (01286) 685300 neu ewch i www.s4c.co.uk/ffermffactor

[caption id="attachment_2284" align="aligncenter" width="300"]Dilwyn Owen and Ann Harries with his new Isuzu D-Max Yukon Dilwyn Owen and Ann Harries with his new Isuzu D-Max Yukon[/caption]