UAC Meirionnydd yn noddi coron drawiadol Eisteddfod yr Urdd

Cyflwynwyd coron drawiadol wedi ei chreu o arian, llechen a gwlân Cymreig gan ferch fferm leol i drefnwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd sydd i’w chynnal yn y Bala eleni (Mai 26-31).  Noddwyd y goron gan gangen y sir o Undeb Amaethwyr Cymru.

Yr artist ifanc o Fallwyd, Mari Eluned sydd wedi creu’r goron ac mi fydd yn cael ei chyflwyno i Brif Lenor Urdd Gobaith Cymru yn y pafiliwn am 14.30 ar ddydd Gwener Mai 30.

Dywedodd Swyddog Gweithredol Sirol Cangen UAC Meirionnydd Huw Jones:  “Mae Mari yn artist talentog, ac mae parch mawr i’w gwaith yn lleol ac yn genedlaethol, ac hefyd, wrth gwrs, mae’n ferch fferm leol o Feirionnydd.

“Roeddem yn hapus iawn gyda’r cynlluniau bras a gyflwynwyd i ni ar bapur fisoedd yn ôl, ond dim ond ar ôl gweld y goron wedi ei chwblhau ydym ni yn llawn werthfawrogi pa mor drawiadol ydy hi.”

Ar ôl graddio gyda gradd dosbarth cyntaf mewn gemwaith a gof arian o Brifysgol Loughborough yn 2006, dychwelodd Mari i Gymru i gychwyn busnes ei hun “Mari Eluned” yn cynhyrchu gemwaith unigryw sy’n cyfuno llechen Gymreig gydag arian o’i chartref ym Mallwyd.

Mae’r busnes wedi mynd o nerth i nerth, ac yn 2009 enillodd wobr ‘Crefftwr/Arlunydd Ifanc y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Blas a Dawn Gwynedd.

Cafodd y goron ei hysbrydoli gan dymor y gwanwyn, ac wedi ei chreu o arian, aur, llechen Gymreig a defnydd gwyrdd wedi ei wehyddu o wlân Cymreig.

Dywedodd Mari, a gychwynnodd ar y gwaith o greu’r goron ym mis Mawrth: “Cyfres o flagur arian cydgysylltiol sy'n amrywio mewn maint sy'n ffurfio'r goron, ac yn dangos datblygiad cennin pedr o flagur i flodyn.  Mae blaen y goron wedi ei haddurno gyda chennin pedr wedi eu gwneud o lechen, aur ac arian.

Yn ychwanegol mae cyfuchliniau rhai o fynyddoedd Meirionnydd wedi’i ysgrythu i’r arian, tra bod y defnydd o wlân gwyrdd yn cyfleu’r ardal wledig.  Mae botwm o lechen, aur ac arian yn cynrychioli’r copa.

“Gofynnwyd i mi yn ddiweddar gan UAC i greu’r goron ar gyfer Eisteddfod Powys, ond braint llwyr oedd pan gysylltodd yr undeb a mi yngl?n â choron yr Urdd.

 

[caption id="attachment_2858" align="aligncenter" width="700"]Coron Eisteddfod yr Urdd Coron Eisteddfod yr Urdd[/caption]

[caption id="attachment_2859" align="aligncenter" width="1024"](o’r chwith) llywydd UAC Emyr Jones, cadeirydd pwyllgor gweithredol yr eisteddfod Hedd Pugh, Mari Eluned a Huw Jones. (o’r chwith) llywydd UAC Emyr Jones, cadeirydd pwyllgor gweithredol yr eisteddfod Hedd Pugh, Mari Eluned a Huw Jones.[/caption]