Wythnos brecwast ffermdy UAC

Brecwast yw un o brydau pwysicaf y dydd ac mae’n gyfle gwych i siarad a rhannu eich meddyliau cyn dechrau’r diwrnod, gan helpu hefyd i wella iechyd meddwl pobl.

Felly er mwyn hybu’r buddion iechyd a chael cyfle am sgwrs cyn i’r diwrnod ddechrau, unwaith eto, mae timau Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) ar draws y wlad yn cynnal amrywiaeth o frecwastau ffermdy yn ystod yr wythnos rhwng dydd Llun 15 a dydd Sul 21 Ionawr 2024.  Bydd UAC, unwaith eto hefyd yn cynnal brecwast ffermdy yng Nghaerdydd ar ddydd Mawrth, Ionawr 16.

Dywedodd Llywydd UAC Ian Rickman: “Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen yn arw at ein brecwastau ffermdy blynyddol. Gallwn ddechrau’r diwrnod gyda’n teulu, ffrindiau a chymdogion, mewn ffordd gadarnhaol ac iach, a chodi arian ar yr un pryd at ein hachos elusennol, sef Ambiwlans Awyr Cymru. Mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at gefnogaeth wych eto. Mae’n deg dweud bod dechrau iach i’r diwrnod nid yn unig yn dda i galon iach, ond hefyd i feddwl iach.”

Mae wythnos frecwast Ffermdy UAC hefyd yn rhoi cyfle i hyrwyddo’r cynnyrch lleol o safon wych y mae ffermwyr yn ei gynhyrchu i ni bob dydd o’r flwyddyn, a thrwy gydol yr wythnos frecwast bydd UAC yn tynnu sylw at bwysigrwydd ein heconomi wledig.

“Rwy’n gobeithio y bydd llawer ohonoch yn gallu ymuno â ni am frecwast. Rydyn ni eisiau i chi fod yn rhan o'r hyn rydyn ni'n ei wneud, a rhannu eich meddyliau a'ch pryderon am gyflwr y diwydiant.  Rydym hefyd am glywed eich hanesion chi, a fydd yn helpu ni i ddeall sut gallwn ni helpu ein gilydd. Pa ffordd well o wneud hynny na o gwmpas bwrdd lle rydyn ni'n mwynhau bwyd gwych a phaned o de,” ychwanegodd Ian Rickman.

###

Breakfast events per county - please contact the local office to book your seat at the table:

Anglesey

Saturday 20th of January - Clwb Rygbi Llangefni 

Brecon & Radnor

Tuesday 16th January - Bodwigiad Farm, Penderyn

Friday 19th January - Builth Pavilion

Caernarfon

Saturday 13th January - Caffi Y Fron, Y Fron, Caernarfon

Wednesday 17th January-  Hendre Feinws, Y Ffôr, Pwllheli

Thursday 18th January - Neigwl Plas, Botwnnog, Pwllheli

Friday 19th January -Dylasau Uchaf, Padog, Betws y Coed

Friday 19th January - Caffi Mart Bryncir, Bryncir, Garndolbenmaen

Carmarthen

Wednesday 17th January - Gwynfe Community Hall

Thursday 18th January - Pontyates Welfare Hall

Friday 19th January - Llanarthne Village Hall

Ceredigion

Tuesday 16th January- La Calabria, Ffostrasol, Llandysul

Wednesday 17th January- Mynach Hall, Devils Bridge

Friday 19th January- Felinfach Hall, Felinfach

Denbigh & Flint

Monday 15th January- Corlan Ddiwylliant Llangwm

Friday 19th January- Neuadd Owen, Cefnmeiriadog

Saturday 20th January- Neuadd Bentref Rhosesmor

Glamorgan

Thursday 18th January - Aberthin Village Hall, Aberthin Ln, Aberthin, Cowbridge

Gwent

Friday 19th January - Ty Oakley Farm, Hafodydrynys 

Saturday 20th January - Cwm Farm Shop, Ynyswen Rd, Ynyswen, Treorchy 

Meirionnydd

Monday 15th January - Cross Foxes, Trawsfynydd, Blaenau Ffestiniog

Wednesday 17th January - Y Sospan, Dolgellau 

Friday 19th January- Neuadd Bentref Llanuwchllyn, Llanuwchllyn, Bala

Saturday 20th January - Neuadd Mynach, Cwmtirmynach

Montgomeryshire

Tuesday 16th January - Maengwyn Cafe, 57 Heol Maengwyn, Machynlleth

Wednesday 17th January - Dyffryn Cafe & Restaurant, Foel, Welshpool

Thursday 18th January - The Bull & Heifer, Bettws Cedewain, Newtown, Powys

Saturday 20th January - The Wynnstay Inn, Llansilin, Oswestry

Pembrokeshire

Tuesday 16 January - Canolfan Hermon, Hermon

Friday 19 January - Crundale Hall, Crundale