Neges Nadolig gan y Llywydd UAC

Mae’n anodd credu ein bod ni eisoes ym mis olaf 2023 - mae eleni wedi hedfan. Mae’n debyg bod hynny’n rhannol yn ymwneud a mynd yn hŷn, ac mae amser i’w weld yn mynd yn gyflymach, ond hefyd mae wedi bod yn flwyddyn brysur iawn am sawl rheswm.

Wrth inni ddechrau’r flwyddyn, Bil Amaethyddiaeth Cymru oedd ein prif ffocws. Ni ellir diystyru pwysigrwydd cael y ddeddfwriaeth hollbwysig hon yn gywir, y fframwaith y bydd  rhaid i’n cynlluniau ar gyfer cefnogi amaethyddiaeth yma yng Nghymru yn y dyfodol weithredu o fewn. Nid yn unig i bob un ohonom ni sy’n ffermio yng Nghymru heddiw, ond hefyd i genedlaethau o ffermwyr y dyfodol sydd mor hanfodol i’n diwydiant wrth symud ymlaen. 

Bydd y ddeddfwriaeth hollbwysig yma yn darparu’r fframwaith ar gyfer cymorth amaethyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol a dyma’r tro cyntaf i Gymru ddeddfu yn y modd hwn. Rydym wedi dadlau ers cyflwyno’r bil fod absenoldeb hyfywedd economaidd busnesau amaethyddol a ffermydd teuluol o amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy yn bryder sylweddol ac yn un y byddwn yn parhau i fynd i’r afael ag ef. 

Fodd bynnag, pleidleisiodd y Senedd hefyd i gynnwys cynllun cymorth amlflwydd a fydd yn darparu gwybodaeth ar sut y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu darparu cymorth ariannol. Mae hwn wedi bod yn un o ofynion allweddol UAC ac mae’n ddarpariaeth sy’n bodoli yn Neddf Amaethyddiaeth y DU. Mae cynnwys y gwelliant hwn yn rhoi ffermwyr Cymru ar yr un lefel â’r rhai yn Lloegr a gobeithio yn rhoi rhywfaint o eglurder o leiaf i ffermwyr Cymru wrth gynllunio ar gyfer dyfodol eu busnesau.

Mae’r Ddeddf Amaethyddiaeth yn paratoi’r ffordd ar gyfer newidiadau i gymorth fferm i ni yng Nghymru a’r mis hwn rydym yn disgwyl yr ymgynghoriad diweddaraf, ac o bosibl yr un terfynol, ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. I fod i ddechrau yn 2025, bydd hwn yn disodli Cynllun y Taliad Sylfaenol yma yng Nghymru. Gwyddom oll pa mor bwysig yw’r cyllid hwn i’n heconomi a’n cymunedau gwledig, felly bydd sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn - cynllun sy’n hygyrch i holl ffermwyr Cymru, gyda chyllideb gyfatebol, yn hollbwysig yn y misoedd nesaf.

Y mis hwn hefyd daw holl gytundebau Glastir i ben a byddant yn cael eu disodli gan y Cynllun Cynefin Cymru newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Os yw hyn yn gipolwg ar y dyfodol, yna mae’n achosi cryn bryder. Mae camgymeriadau mapio a’r cyfraddau taliadau isel wedi arwain at lawer ohonom yn dewis peidio â chyflwyno Datganiad o Ddiddordeb yn y cynllun newydd. Yn anffodus, i’r mwyafrif, ac yn enwedig y ffermwyr hynny sydd wedi bod mewn cynlluniau amaeth-amgylcheddol ers degawdau, mae’r newidiadau i’n systemau ffermio i bob pwrpas yn ddi-droi’n-ôl ac wedi cymryd y taliadau hyn i ystyriaeth yn eu llif arian ers tro. Mae hyn yn golygu bod y gostyngiadau mewn taliadau yn codi pryderon mawr ynghylch hyfywedd ariannol eu busnesau - pwyntiau yr ydym wedi eu codi dro ar ôl tro gyda gwleidyddion ar ran ein haelodau.

Er bod y cyfraddau talu wedi’u pennu, nid yw’r gyllideb gyffredinol ar gyfer y cynllun wedi’i chadarnhau eto. Dywedir wrthym fod hyn oherwydd y ffaith y bydd taliadau Cynllun Cynefin Cymru yn cael eu prosesu yn ystod blwyddyn ariannol 2024-25 ac felly ni fydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i gadarnhau cyllideb tan ar ôl cyhoeddi’r gyllideb ddrafft yn ddiweddarach yn Rhagfyr. Ar ôl 30 mlynedd o gynlluniau Amaeth-Amgylcheddol yng Nghymru, mae Cynllun Cynefin Cymru a sut y’i cyflwynwyd yn gam yn ôl a dylai fod yn rhybudd i Lywodraeth Cymru. Rhaid inni gael y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn iawn, a gallaf sicrhau’r aelodau y byddwn yn parhau i siarad ag unrhyw un a phawb i geisio sicrhau bod hynny’n digwydd.

Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o faich cynyddol biwrocratiaeth ar ein diwydiant a’r gofynion sydd arnom fel ffermwyr, ond dyma gyfle perffaith i’ch atgoffa bod yr Undeb yma i helpu ein haelodau. Daw’r enghraifft ddiweddaraf o lenwi ffurflenni ar ffurf yr angen i holl ffermwyr Cymru lenwi Gweithlyfr Blynyddol fel rhan o’r rheoliadau Llygredd Dŵr Amaethyddol. Os nad ydych wedi gwneud hyn eto, cysylltwch â’ch swyddfa sirol a gallant roi cyngor ar yr hyn sydd angen i chi ei wneud a pha gymorth y gallwn ei gynnig. 

Wrth sôn am y rheoliadau Llygredd Dŵr Amaethyddol, hoffwn atgoffa’r aelodau fodd bynnag ein bod yn croesawu’r ymdrechion a wnaed gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru i gyflwyno terfyn nitrogen uwch ar gyfer y flwyddyn nesaf yn dilyn ymgynghoriad a dderbyniodd fwy na dros 1,500 o ymatebion. Yn ein hymateb fe wnaethom amlinellu sut y gallai’r cynigion ar gyfer cynllun i ganiatáu terfyn uwch fod yn rhwyd ​​ddiogelwch sylweddol i nifer o ffermwyr yng Nghymru yn y tymor byr sydd eisoes yn mynd dros y terfyn 170kg. Fodd bynnag, mynegon bryderon mawr hefyd yn ymwneud â’r meini prawf a’r gofynion arfaethedig a sut y byddai hyn yn pennu’n effeithiol faint o ffermydd a fyddai’n gymwys ar gyfer cynllun o’r fath. 

Er ein bod yn croesawu’r dull symlach hwn sy’n osgoi proses ymgeisio fiwrocrataidd ac ansicrwydd pellach i’r rhai sy’n dymuno gwneud cais, gwnaethom hefyd alw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu canllawiau clir cyn gynted â phosibl yn nodi’r camau gweithredu pellach y bydd yn rhaid i ffermwyr eu cymryd a pha dystiolaeth y bydd disgwyl iddynt ddarparu.

Er ein bod wedi croesawu’r angen am drydydd oedi o ran terfyn nitrogen y fferm gyfan, roedd yn arwydd o’r rheoliadau sydd wedi’u cynllunio’n wael a gyflwynwyd yn y lle cyntaf. Rwy’n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau’r broses o adolygu’r rheoliadau cyn bo hir, i gynnwys ystyried terfyn nitrogen uwch parhaol a dewisiadau amgen i’r cyfnodau caeedig, fel y gellir darparu eglurder hirdymor i sector amaethyddol Cymru.

Adref ar y fferm mae Sean a minnau wedi cwblhau ein blwyddyn gyntaf o ffermio cyfran, ac mae hynny wedi hedfan hefyd, mae rhai pethau wedi mynd yn dda, roedd magu’r lloi Wagyu yn llwyddiant. Roedd cyllideb Sean yn fanwl gywir felly roedd rhywfaint o elw ar ôl pan adawodd y lloi y fferm yn yr hydref. 

Mae’r defaid wedi bod yn dipyn mwy o her eleni. Fel y gwyddom, nid yw’r tywydd wedi bod o’n plaid ni, mae ŵyn wedi gwerthu’n eithaf da dros y flwyddyn, ond fel llawer o ffermydd, rydym wedi cael trafferth i gadw ein costau cynhyrchu cynyddol dan reolaeth. Mae hyn yn rhannol oherwydd yn ein hachos ni yn y Gurnos am ein bod yn ceisio bod yn fwy effeithlon, ail-hadu gyda rhywogaethau cymysg a meillion coch, taenu calch i geisio cadw pH ein pridd ar y lefel optimwm, a gosod ffensys a seilwaith dŵr yfed fel ein bod yn elwa fwy o bori cylchdro. Rwy’n siŵr y bydd hyn yn talu ar ei ganfed wrth symud ymlaen ac mae’n wych cael ffermwr ifanc mor frwd gyda ni yma ar y fferm.

Mae fy 5 mis cyntaf fel Llywydd wedi hedfan. Mae’n fraint bod yn y rôl, i gynrychioli chi fel aelodau ar sawl achlysur amrywiol, gan wneud yn siŵr bod eich llais chi a’n diwydiant gwych yn cael ei glywed. 

Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i holl aelodau, staff, swyddogion UAC yn ogystal â fy nheulu (heb anghofio Sean!) am eu cymorth a’u cefnogaeth. Ni fyddai hyn i gyd yn bosib hebddo chi. 

Rwyf am roi sylw arbennig hefyd i bawb yng Ngwasanaethau Yswiriant FUW Cyf. Mae ein busnes yswiriant yn parhau i fynd o nerth i nerth a bydded i hynny barhau. Yn olaf hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno Nadolig Llawen iawn i chi gyd.