Datgelu dyluniadau cardiau Nadolig buddugol UAC

Datgelu dyluniadau cardiau Nadolig buddugol UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi datgelu’r dyluniadau buddugol ar gyfer ei chystadleuaeth dylunio cardiau Nadolig. Gwahoddwyd plant ysgolion cynradd ledled Cymru i gyflwyno cynllun ar gyfer cerdyn Nadolig ar y thema ffermio er budd Ambiwlans Awyr Cymru, elusen bresennol Llywydd UAC.

Rhannwyd y gystadleuaeth yn ddau gategori – dyluniadau Cymraeg a Saesneg. Enillwyd y categori Saesneg gan Lucy-grace Humphrey, 9 oed, o Ysgol Glannau Gwaun, Abergwaun. Enillydd y categori Cymraeg oedd Ynyr Wyn Lloyd, 9 oed, o Ysgol Gynradd Bontnewydd, Caernarfon.

Dywedodd Llywydd UAC Ian Rickman: “Roedd y gystadleuaeth yn llwyddiant ysgubol unwaith eto ac wedi denu cannoedd o geisiadau o bob rhan o Gymru. Roedd y safon yn uchel iawn a bu’r dasg o ddewis enillwyr yn anodd iawn i’r beirniaid.

“Hoffwn ddiolch i bob plentyn a gymerodd ran yn y gystadleuaeth a dweud wrthynt na fyddai’r gystadleuaeth wedi bod yn gymaint o lwyddiant heb fod nhw wedi cymryd rhan. Hoffwn hefyd fynegi fy niolch i’r staff yn yr ysgolion ar hyd a lled y wlad a gynorthwyodd UAC i gynnal y gystadleuaeth.

“Rhoddwyd cyfle i blant mewn ardaloedd trefol a gwledig yng Nghymru gysylltu â’r diwydiant ffermio a mynegi eu meddyliau mewn ffordd greadigol a lliwgar, gan ddangos pam bod #AmaethAmByth. Rwy’n credu bod hi’n hanfodol ein bod ni fel ffermwyr yn cynnal cysylltiad cryf â phobl ifanc fel eu bod yn deall y ffordd y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu yn y wlad hon.”

Gellir prynu’r cardiau naill ai o brif swyddfa UAC drwy ffonio 01970 820820 neu o swyddfeydd sirol UAC.