Toriadau brys i gyllideb materion gwledig yn peryglu targedau amgylcheddol, meddai UAC

Toriadau brys i gyllideb materion gwledig yn peryglu targedau amgylcheddol, meddai UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryder mawr yn dilyn cyhoeddiad a wnaed gan Weinidog Cyllid Cymru, Rebecca Evans, ddydd Mawrth 17 Hydref 2023, a fydd yn gweld toriadau sylweddol i wariant materion gwledig yng Nghymru.

Mae'r pecyn o fesurau ariannol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy'n diogelu ac yn cynyddu gwariant ar iechyd a thrafnidiaeth, yn gweld cyfanswm gostyngiad cyllidebol Llywodraeth Cymru o tua £600 miliwn; gyda thua £220 miliwn yn dod o doriadau i wariant.

Dywedodd Llywydd UAC Ian Rickman:

“Mae’r ffaith y gallai’r dyraniad cyllideb ar gyfer materion gwledig gael ei leihau o dros £37 miliwn o bosibl yn ergyd sylweddol i’r diwydiant. Mae hyn yn peri cryn bryder o ystyried y gwaith pwysig sy’n cael ei wneud gan adran materion gwledig Llywodraeth Cymru ar adeg o drawsnewid mawr a phwysau ar ffermwyr a’r cymunedau gwledig y maent yn eu cefnogi.

“Nid oes unrhyw weinyddiaeth yn ddiogel rhag toriadau gwariant ac rydym yn cydnabod yn llwyr fod yna bwysau y tu allan i reolaeth Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae toriadau yn y gyllideb o’r natur sylweddol hon yn bwrw amheuaeth ar y targedau amgylcheddol uchelgeisiol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Heb gefnogaeth briodol ac uchelgeisiol ar gyfer cynhyrchu bwyd a ffermio sy’n amgylcheddol gynaliadwy bydd yn anodd i’r diwydiant gyflawni dyheadau Llywodraeth Cymru yn y meysydd hyn.”

Daw’r cyhoeddiad hwn ar ôl toriadau o fwy na £200 miliwn mewn cyllid ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig Cymru ers 2019 ac mae’n cadarnhau pryderon UAC ynghylch y diffyg eglurder ynghylch y gyllideb sydd ar gael ar gyfer y Cynllun Cynefin Cymru newydd.

“Yn eironig, mae’r gyllideb Newid yn yr Hinsawdd, sy’n cynnwys trafnidiaeth, wedi cael hwb o dros £80 miliwn o gyllid, ond mae cyfraddau talu is, ynghyd â cholli taliadau rheoli’r fferm gyfan a chymorth ar gyfer gwaith cyfalaf, yn golygu bod y rheini sydd â chontractau Glastir ar hyn o bryd, a ddaw i ben ar 31 Rhagfyr 2023, yn cael taliadau llawer llai'r flwyddyn nesaf os byddant yn penderfynu ymuno â’r cynllun amgylcheddol dros dro hwn.

“Byddai’n destun pryder mawr pe bai gostyngiadau i’r gyllideb materion gwledig gyffredinol yn arwain at llai o arian ar gael ar gyfer cyllideb Cynllun Cynefin Cymru. Rydym wedi galw’n gyson ar i’r cynllun newydd hwn, sy’n agored i fwy na 17,000 o ffermwyr Cymru, gael yr un faint o gyllid â’r cynlluniau y mae’n eu disodli. Mae UAC yn parhau i fod yn hynod bryderus, pe bai’r cynllun newydd yn ariannol anneniadol i ffermwyr, y bydd unrhyw danwariant canlyniadol yn cynrychioli colled incwm pellach i’r sector.

“Cyfeiriodd y Gweinidog Cyllid at ddiogelu swyddi fel un o’r blaenoriaethau sy’n sail i’r newidiadau i gynlluniau gwariant ac felly hoffem atgoffa Llywodraeth Cymru bod yr arian sydd ar gael i ffermydd teuluol yng Nghymru yn cefnogi amrywiaeth aruthrol o fusnesau eilaidd a thrydyddol. Mae cannoedd o fusnesau’n dibynnu’n llwyr ar amaethyddiaeth yng Nghymru a bydd unrhyw ostyngiadau mewn incwm ffermydd yn cael effaith uniongyrchol ar y busnesau hyn a’u gweithwyr,” ychwanegodd Mr Rickman.