UAC yn amlinellu blaenoriaethau amaethyddiaeth ym maniffesto’r etholiad cyffredinol

[caption id="attachment_7871" align="aligncenter" width="169"] Llywydd UAC Glyn Roberts yn lansio Maniffesto Etholiad Cyffredinol UAC ar fferm Sain Ffagan.[/caption]

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi lansio ei maniffesto Etholiad Cyffredinol 2017 yn swyddogol, gan amlinellu'r hyn y mae'n ystyried yn flaenoriaethau, o ran amaethyddiaeth, ar gyfer Llywodraeth nesaf y DU.

 

Wrth siarad yn y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yng Nghaerdydd, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: "Mae hwn yn etholiad anarferol - efallai yn etholiad un pwnc - ac yn wahanol i unrhyw etholiad yn y gorffennol.  Bydd Brexit yn dominyddu ac mae angen i ni sicrhau bod pwy bynnag sy'n ffurfio'r Llywodraeth nesaf yn deall yr heriau a'r cyfleoedd sylweddol sy'n wynebu ffermydd teuluol yng Nghymru. A'u bod nhw hefyd yn cydnabod mae nid Lloegr ac amaethyddiaeth Lloegr yw Cymru ac amaethyddiaeth yng Nghymru.

 

“Heddiw, rydym yn cwrdd mewn amgueddfa, un sy'n cadw ac yn dangos yr elfennau gorau a mwyaf diddorol o'n treftadaeth gymdeithasol a diwylliannol. Credaf fod gan yr amgueddfa yma a UAC llawer yn gyffredin. Rydym yn gwybod o ble rydym wedi dod, rydym yn gwybod ein bod yn cynrychioli pobl a chymunedau Cymru, ac rydym yn gwybod bod gennym stori wych i'w ddweud.

 

“Ond mae Sain Ffagan, wrth gwrs, yn amgueddfa sy’n dathlu ac yn cofnodi’r gorffennol, tra bod ein teuluoedd ffermio yn cynrychioli nid yn unig yn yr hanes presennol ond y dyfodol hefyd. Yn sicr, nid ydym am weld Cymru’n troi mewn i Amgueddfa. Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn parhau i dyfu a darparu busnesau llwyddiannus, proffidiol mewn cymunedau cryf, hapus, amlieithog. Busnesau fferm sy'n cynnig gobaith ar gyfer ein cenhedlaeth iau ac yn helpu i gadw ein cymunedau gwledig yn fyw. I ni mae'r gorffennol yn sylfaenar gyfer adeiladu ein dyfodol."

 

Mae UAC yn credu'n gryf bod yn rhaid i Lywodraeth nesaf y DU gymryd y cyfle i lunio polisïau gwladol sy'n addas ar gyfer y DU y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd a bod rhaid i’r polisïau hynny barchu’r cydbwysedd presennol o b?er rhwng gwledydd datganoledig, tra hefyd yn cymryd i ystyriaeth y pryderon ynghylch rheolau anghyfartal, rheoliadau a biwrocratiaeth yr UE, a arweiniodd at gymaint yn pleidleisio i adael yr UE.

 

"Ers 1978 mae UAC wedi cael ei chydnabod yn ffurfiol gan Lywodraethau ar gyfer cynrychioli barn ffermwyr yng Nghymru yn unig. Nid oes gennym unrhyw ddylanwadau allanol o'r tu allan i Gymru, ac yn llais annibynnol ffermydd teuluol yng Nghymru. Felly, mae UAC yn ymroddedig i lobio pawb yn San Steffan i sicrhau bod amaethyddiaeth yng Nghymru a ffermydd teuluol yng Nghymru yn cael y sylw a'r parch y maent yn haeddu, ar gyfer cyfnod y Senedd nesaf a thu hwnt - er lles dyfodol pawb, " ychwanegodd Mr Roberts.