Tanio Erthygl 50 yn gwneud hi’n hanfodol symud ymlaen

Mae tanio Erthygl 50 o Gytundeb Lisbon yn golygu bod angen symud ymlaen ar nifer helaeth o faterion ar fwy o fyrder nag erioed, yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru.

Meddai Llywydd UAC, Glyn Roberts:  “Nawr bod camau Erthygl 50 wedi dechrau, gwyddom mai cwta dwy flynedd sydd gennym i ddelio â phentwr o waith.

“Yn ogystal â materion brys, fel sicrhau cytundebau masnachu a negodi’r opsiynau gadael gorau posib ar gyfer y DU, mae angen inni symud ymlaen ochr yn ochr â hynny i sefydlu dealltwriaeth a chytundeb rhwng gweinyddiaethau datganoledig er mwyn datblygu marchnad gartref sy’n gweithio i bawb.”

Oriau’n unig ar ôl cyhoeddi canlyniad refferendwm yr  UE y llynedd, galwodd UAC am gynnal y broses Brexit ar gyflymdra rhesymol, o ystyried maint y gwaith a’r cynllunio oedd dan sylw.

Yn Chwefror, disgrifiodd Llyfrgell T?’r Cyffredin Y Bil Diddymu Mawr, sef y mecanwaith ar gyfer adolygu ac ad-drefnu holl ddeddfwriaeth yr UE, fel ‘o bosib un o’r prosiectau deddfwriaethol mwyaf i’w weithredu o fewn y Deyrnas Unedig.’

“Un elfen yn unig o’r gwaith sydd angen ei wneud dros y ddwy flynedd nesaf yw rhoi’r Bil Diddymu Mawr ar waith.  Mae’r amser yn prinhau, ac mae datblygu fframwaith amaeth ar gyfer y DU yn cynrychioli un elfen yn unig o’r gwaith hwnnw,” meddai Mr Roberts.

Ar ôl ymgynghori â’r aelodau, cytunodd UAC hydref diwethaf y dylid sefydlu fframwaith amaeth ar gyfer y DU ‘sy’n atal cystadleuaeth annheg rhwng rhanbarthau datganoledig,  ac yn sicrhau a gwarchod cyllid hirdymor digonol ar gyfer amaethyddiaeth, gan barchu pwerau datganoledig dros amaethyddiaeth a’r angen am hyblygrwydd o fewn y fframwaith, sy’n galluogi llywodraethau datganoledig i wneud penderfyniadau sy’n briodol i’w rhanbarthau nhw.’

Pwysleisiwyd yr angen i fynd ati i ddatblygu fframwaith mewn llythyr at holl weinidogion amaeth y DU yn ddiweddar.

“Rhaid trafod fframwaith o’r fath gyda rhanddeiliaid a rhaid i lywodraethau datganoledig a gweinidogion amaeth gytuno arno, ac mae pwysigrwydd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ehangach amaethyddiaeth i’n heconomïau’n gwneud hi’n hanfodol nad yw trafodaethau o’r fath yn troi’n llwyfan ar gyfer brwydrau gwleidyddol ar wahân.  Allwn ni ddim caniatáu i ateb  ‘ar gyfer Lloegr yn bennaf’ gael ei wthio arnom gan Lywodraeth y DU.

“Rydym yn bryderus nad yw trafodaethau ar y lefel uchaf ynghylch yr angen am, a natur fframwaith o’r fath, yn symud ymlaen ar y cyflymdra priodol, yn enwedig o ystyried y cyfnod byr iawn sydd ar gael i wneud penderfyniadau pwysig, a dyna pam ein bod yn galw unwaith eto ar bob Llywodraeth i gydweithio’n agos i sicrhau lles ein cymunedau gwledig,” ychwanegodd Llywydd yr Undeb.

Mewn tystiolaeth a gyflwynwyd yn ddiweddar i’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, pwysleisiodd UAC yr angen i symud ymlaen ar gyflymdra priodol ar y naill law, a pheryglon ceisio gweithredu system hollol newydd yn rhy gynnar ar y llaw arall.

“Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld beth all ddigwydd pan wneir hyd yn oed newidiadau bach iawn i systemau a rheolau sy’n effeithio ar amaethyddiaeth, yn enwedig yn Lloegr a’r Alban.  Ac mae’r problemau a gafwyd yn Lloegr yn 2005 a 2006 yn hysbys iawn.

“Rhaid inni gyflwyno unrhyw reolau newydd yn raddol, ac mae hynny’n golygu sicrhau mai dim ond gwahaniaethau bach fydd yna rhwng y systemau sydd yn eu lle ar ddiwrnod olaf ein haelodaeth o’r UE a diwrnod cyntaf Brexit.  Mae angen cael fframwaith yn ei le ar gyfer y DU i gyflawni hyn.

“Yn yr achos hwn mae angen inni symud ymlaen gyda gofal,” ychwanegodd Mr Roberts.