Aelod o Bwyllgor ar Newid Hinsawdd Cynulliad Cenedlaethol yn clywed am daliadau hwyr Glastir

[caption id="attachment_7908" align="alignleft" width="300"] Pennaeth Polisi UAC Dr Nick Fenwick yn diweddaru aelodau ar Glastir.[/caption]

Yn ddiweddar, daeth ffermwyr yng Ngheredigion at eu gilydd i drafod #AmaethAmByth gyda’r Aelod Cynulliad Rhanbarthol Simon Thomas sydd hefyd yn aelod o Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac amlinellwyd rhai o'r materion sy’n eu hwynebu gyda chynlluniau amaeth-amgylcheddol ac arallgyfeirio.

Croesawyd pawb gan Huw Davies, o Llety Ifan Hen, Bontgoch, Ceredigion sydd ffermio 900 erw gyda’i dad Emyr.  Maent yn cadw 1500 o ddefaid, 400 o ddefaid cyfnewid ac ?yn benyw, 40 o wartheg sugno a dilynwyr, yn ogystal â 20 o wartheg stôr.

Cafodd Huw ei eni ar y fferm ym 1965, ac wedi bod yn ffermio yma’n llawn amser ers 1990, ar ôl teithio o amgylch Seland Newydd ac astudio amaethyddiaeth yng Ngholeg Llysfasi.

Mae’r teulu hefyd wedi arallgyfeirio gyda thyrbin gwynt 500kw ac mae’r fferm hefyd yng Nghynlluniau Glastir Uwch ac Organig.

Wrth amlinellu'r prif faterion mae’n wynebu gyda Glastir, dywedodd Huw Davies: "Rydym wedi gwneud yr holl waith roedd yn ofynnol i ni ei wneud yn ein cytundeb Glastir Uwch, megis adeiladu wal gerrig 180 metr, plannu 250 metr o wrychoedd a ffensio coetir. Er gwaethaf yr holl waith a wnaed, rydym dal heb gael ein talu am y gwaith sydd bellach yn £25,000.

[caption id="attachment_7909" align="alignright" width="300"] Aelod UAC Huw Davies (ch) yn diweddaru Simon Thomas AC ar y problemau mae’n wynebu gyda’r Cynllun Glastir.[/caption]

“Llynedd cawsom ein had-dalu erbyn mis Ebrill am ein gwaith amgylcheddol, ac felly nid oedd hynny’n ddrwg iawn, ond o ystyried hefyd bod ein taliad sengl yn hwyr eleni mae pethau'n dynn yn ariannol. Mae hynny'n golygu na allwn fuddsoddi yn y busnes na thalu ein contractwyr. Mae'n rhwystredig iawn a bron yn amhosibl cynllunio ymlaen llaw neu hyd yn oed llenwi’r ffurflenni treth, oherwydd mae’n bosib y bydd dau daliad yn digwydd yn yr un flwyddyn ariannol.

Dywedodd Pennaeth Polisi UAC, Dr Nick Fenwick: “Fel pob cynllun amaeth-amgylcheddol, mae’r taliadau Glastir yn digolledu ffermwyr am y gwaith sy’n cael ei wneud a’r costau sydd ynghlwm, ac mae ond yn deg bod taliadau’n cael eu gwneud o fewn cyfnod amser rhesymol."

Dywedodd Dr Fenwick bod y diwydiant wedi cael ei gythruddo ym mis Mawrth pan ddywedodd Llywodraeth Cymru wrth y wasg nad oedd y fath beth a thaliad Glastir hwyr, gan awgrymu y gallent gadw taliadau am gyhyd ag y maent yn dymuno.

[caption id="attachment_7910" align="alignleft" width="300"] Aelodau’n gweld tu fewn i’r tyrbin 500kw.[/caption]

"Mae Llywodraeth Cymru yn ysgrifennu'n rheolaidd i ffermwyr gan roi tri deg diwrnod iddynt i ad-dalu symiau a dalwyd yn anghywir. Os yw Gweinidogion Cymru yn credu bod hyn yn gyfnod amser rhesymol, yna dylent ddilyn yr un egwyddor, yn enwedig gyda chostau. Yn seiliedig ar y ar y fath gyfnod, mae cannoedd o daliadau Glastir sy'n ddyledus gan y Llywodraeth bellach yn fwy na thri mis yn hwyr."

Gyda phrisiau’r fferm yn isel a dyfodol taliadau amaethyddol yn ansicr, penderfynodd Huw arallgyfeirio i ynni adnewyddadwy ac ym mis Mehefin y llynedd adeiladwyd tyrbin gwynt 500 kw. Fodd bynnag, nid yw'r broses a'r manteision y mae'n ei gynnig mor syml ag y gall rywun feddwl.

Mae Huw yn egluro: "Mae'r broses gynllunio ar gyfer y prosiect hwn yn hynod o gymhleth, a heb ein hymgynghorydd, ni fyddai’r cynllun wedi bod yn

[caption id="attachment_7911" align="alignright" width="169"] Y tyrbin gwynt 500kw yn Llety Ifan Hen.[/caption]

bosib.  Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud y broses yn haws, fel y gall mwy o ffermwyr arallgyfeirio i ddiogelu eu busnesau ond hefyd i gynyddu faint o ynni adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru. Mae'n rhaid iddo fod yn hawdd a deniadol i bobl os ydynt am ymwneud ac arallgyfeirio o'r fath. Er mwyn helpu gyda hynny byddai hefyd yn synhwyrol i ddod â'r tariff yn ôl. Rydym yn ffodus bod gennym y tyrbin yn awr gan ei fod yn cynnig tipyn o sicrwydd ariannol, yn enwedig o ystyried y dyfodol ansicr sy’n wynebau ffermio gyda ni ar fin dod allan o’r Undeb Ewropeaidd ac nid oes unrhyw gynlluniau ar waith ar gyfer cymorth amaethyddol yn y dyfodol."