Blaenoriaeth Llywydd UAC yw mynd i'r afael a sialensiau hir dymor y diwydiant

[caption id="attachment_5770" align="aligncenter" width="300"]Llywydd UAC Glyn Roberts (dde) gyda’r dirprwy weinidog amaeth Rebecca Evans (chwith) Llywydd UAC Glyn Roberts (dde) gyda’r dirprwy weinidog amaeth Rebecca Evans (chwith)[/caption]

Mae Llywydd UAC Glyn Roberts wedi disgrifio cyfarfod gyda’r dirprwy weinidog amaeth Rebecca Evans fel un ‘hynod o gadarnhaol’ ond mae’n rhybuddio bod angen talu sylw at sialensiau mawr dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf o gofio cyflwr presennol incymau ffermydd.

Dywedodd Mr Roberts bod hi’n bwysig cynllunio ar gyfer y sialensiau hir dymor sy’n wynebu’r diwydiant a bod y fframwaith strategol ar gyfer y Cynllun Datblygu Gwledig yn allweddol i fynd a’r afael â'r sialensiau hyn.

Yn ystod y cyfarfod, a gynhaliwyd ar Hydref 5, trafodwyd amrywiaeth eang o faterion gan gynnwys datblygiadau diweddaraf y Cynllun Datblygu Gwledig, TB mewn gwartheg ac ymgynghoriad diweddar Llywodraeth Cymru ar fynediad i gefn gwlad.

"Gyda phrisiau ac incymau ffermydd ar eu hisaf ers oddeutu degawd, mae ffermwyr Cymru yn wynebu sialensiau mawr, gyda llif arian yn broblem fawr i lawer.

"Mae'r gostyngiad o tua 6 y cant yng ngwerth y bunt cyllideb Cynllun y Taliad Sylfaenol Cymru yn ychwanegu at y pwysau sydd eisoes yn bodoli, fel y mae'r tebygolrwydd bod cymhlethdod rheoliadau newydd yr UE yn oedi taliadau fferm llawn."

Dywedodd Mr Roberts ei fod yn siomedig nad oedd y Comisiwn Ewropeaidd wedi mynd ymhellach o ran y consesiynau, a fyddai wedi caniatáu taliadau i gael eu rhyddhau yn gynharach, oherwydd y problemau ariannol sy'n wynebu'r diwydiant.

"Mae'r ffaith bod yn rhaid i holl wiriadau gweinyddol a rheolaethau gael eu cwblhau cyn y gellir talu unrhyw flaendaliadau ym mis Hydref a faint o waith oedd hyn o dan y rheolau newydd, yn golygu y codwyd gobeithion yn ddi-sail y byddai taliadau’n cael eu rhyddhau yn gynnar ar ôl uwchgynhadledd argyfwng y UE'r mis diwethaf.

"Serch hynny, rydym yn croesawu ymrwymiad y dirprwy weinidog i wneud popeth posibl i sicrhau bydd 70-80 y cant o daliadau’n cael eu rhyddhau ym mis Rhagfyr, ac yn annog Llywodraeth Cymru i barhau â'r gwaith hwnnw."