Adnewyddwch eich canllaw “Pan ddaw'r archwilydd” er mwyn osgoi cosb meddai UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog ei haelodau i fynd i’w swyddfa UAC lleol i gasglu copïau o “Pan ddaw'r archwilydd” sydd bellach wedi cael ei ddiweddaru - canllaw sy’n paratoi ffermwyr at beth sydd angen ei wneud cyn archwiliad yn ogystal â beth fydd yn digwydd yn ystod archwiliad.

Mae’r canllaw, sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg hefyd yn cynnwys dewis eang o dempledi'r cofnodion fferm sy’n gysylltiedig â Trawsgydymffurfio a Glastir er mwyn cynorthwyo pobl i gadw trefn cywir o’i cofnodion yn unol â gofynion cyfreithiol.

Bu’r diwydiant amaethyddol yn rhan bwysig o ddatblygu’r canllaw gwreiddiol, ac ym mis Rhagfyr 2013 cafodd aelodau gopi o’r canllaw o’i swyddfeydd UAC lleol.  Bellach mae’r canllawiau wedi cael eu diweddaru er mwyn cynnwys y gofynion cyfreithiol newydd sydd wedi deillio o’r Polisi Amaethyddol Cyffredin.

“Rydym yn annog ein haelodau i fynd i’w swyddfeydd UAC lleol i gasglu copi o’r canllaw diweddar. Gallai defnyddio’r hen ganllaw arwain at ddirwy sylweddol” dywedodd swyddog gweithredol sirol Sir Benfro Rebecca Voyle.

Mae hwn yn ganllaw clir a defnyddiol.  Mae’n dweud yn union pa wybodaeth sydd ei angen ar gyfer archwiliad a beth y disgwylir o ffermwyr yn ystod archwiliad” ychwanegodd Mrs Voyle.

Mae’n bosib bod rhai ffermwyr heb dderbyn y “Pan ddaw'r archwilydd” gwreiddiol, felly mae un ar gael am ddim iddynt o’i swyddfa UAC lleol.