UAC yn croesawu ehangu tymor cig oen Prydeinig

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu cyhoeddiad Sainsbury’s bod nhw am ehangu’r tymor cig oen Prydeinig tan o leiaf mis Ionawr 2016.

Mae ffermwyr cig oen Cymreig wedi dioddef yn ofnadwy eleni gyda’r gyfradd cyfnewid wael rhwng y bunt a’r ddoler Seland Newydd a’r newid ym mholisi prynu Tsieineaidd sydd wedi arwain at lif o fewnforion cig oen yn cyrraedd Prydain gan niweidio prisiau cig oen Cymreig ymhellach gyda’r gyfradd Ewro a’r bunt.

“Mae’r gostyngiad ym mhrisiau cig oen wedi effeithio incymau fferm a’r ffaith bod cymaint o gig oen o dramor i’w weld ar silffoedd yr archfarchnadoedd dros yr haf wedi gwylltio ffermwyr,” dywedodd llywydd UAC Glyn Roberts.

“Mae’r ffaith bod y tymor cig oen Prydeinig yn cael ei ehangu hyd nes mis Ionawr y flwyddyn nesaf yn rhywbeth i’w groesawu ac rydym yn llongyfarch Sainsbury’s am wneud yr ymroddiad yma i’n cynhyrchwyr cig oen.

“Rydym yn annog archfarchnadoedd arall i ddilyn yr esiampl a gwneud defnydd o’r cig oen Cymreig ardderchog sydd ar gael. Dyma’r neges sydd wedi bod yn ganolbwynt ein trafodaethau gyda’r archfarchnadoedd trwy gydol yr haf ac yn un y byddwn yn parhau i’w amlygu yn y cyfarfodydd gydag adwerthwyr.

“Fel rhan o’n hymgyrch ‘Mwy na chig oen’ rydym yn ymuno gyda Hybu Cig Cymru ar ei thaith o gwmpas Cymru i ledaenu’r neges ymhellach i gwsmeriaid a hynny am weddill y flwyddyn.

“Mae prisiau cig oen wedi gostwng yn ddifrifol dros fisoedd yr haf, gyda phrisiau wedi gostwng wrth 20 y cant o’i gymharu â’r un cyfnod llynedd a daw hyn yn sgil rhagweld y gostyngiad yn incymau ffermydd tir uchel a llawr gwlad o 41 i 24 y cant.

“Mae mwy o waith i’w wneud i gysylltu cwsmeriaid gyda chynnyrch Cymreig ond mae’r cam yma gan Sainsbury’s yn un i’r cyfeiriad cywir.”