Cwtogi ar y gyllideb materion gwledig yn ergyd fawr i’r diwydiant, medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ymateb yn feirniadol i’r newyddion bod y gyllideb Materion Gwledig ddrafft wedi’i chwtogi 13%.

Wrth gyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 datgelwyd y bydd yna gwtogi o £62 miliwn, sef tua 13%, ar y cyfanswm cyllid ar gyfer materion gwledig, o’i gymharu â chyllideb derfynol 2023-24 fel y’i cyhoeddwyd yn Chwefror, i helpu i fynd i’r afael â’r diffyg o tua £1.3 biliwn.

Er y dylid croesawu’r ffaith bod cyllideb ddrafft 2024-25 Llywodraeth Cymru ar gyfer Taliad y Cynllun Sylfaenol (BPS) yn aros ar £238 miliwn ar gyfer 2024, mae cefndir cyffredinol y gyllideb hon yn atgyfnerthu’r ansicrwydd sy’n wynebu’r sector.

Mae’r toriadau a wnaed i gyllid materion gwledig Cymru yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 yn destun pryder difrifol, yn enwedig am fod angen i’r cyllid sy’n disodli PAC yr UE yn unig fod oddeutu £440 miliwn bellach, o ystyried chwyddiant.

Ar adeg pan mae ffermwyr Cymru’n wynebu ansicrwydd enfawr ynghylch cymorth i ffermwyr yn y dyfodol, a’r camau y bydd angen iddyn nhw eu cymryd i dderbyn cymorth o’r fath, mae’n hanfodol bwysig bod Llywodraeth Cymru’n cydnabod y bwyd cynaliadwy y mae ffermwyr yn ei gynhyrchu, a’r cyfraniad a wneir ganddynt i’r amgylchedd a’r economi wledig ehangach, wrth iddi ddyrannu arian i’r portffolio materion gwledig.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd UAC ei hadroddiad ar rôl cymorth i ffermwyr o fewn cadwyni cyflenwi da byw Cymru, gan ddatgelu’r effeithiau difrifol y gallai cwtogi ar gymorth uniongyrchol i ffermwyr eu cael ar yr economi wledig ehangach, ac fel y cyfryw, yn croesawu’r faith bod rhywfaint o eglurder ar gael ynghylch y BPS. 

Mae lefel yr eglurder am y BPS yn cynnig y sicrwydd sydd ei wir angen ar aelodau UAC ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac mi fydd hefyd yn caniatáu i UAC ddarparu rhai ffigurau dangosol o ran y cymorth ariannol lleiaf y gallant ddisgwyl ei dderbyn yn ystod y cyfnod pontio i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Mae UAC yn croesawu’r cyhoeddiad, sy’n cydnabod arwyddocâd Cynllun y Taliad Sylfaenol i  tua 16,000 o fusnesau fferm yng Nghymru, a’r miloedd o fusnesau trydyddol o fewn cymunedau gwledig sy’n dibynnu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar ffermydd ar gyfer cyfran o’u hincwm.  Fodd bynnag, rhaid adolygu a mynd i’r afael â’r diffyg cyllid cyffredinol ar gyfer y sector.