Data dethol yn celu realiti TB Gwartheg medd UAC

Mae’r realiti o ran TB gwartheg ar ffermydd yng Nghymru’n cael ei gamddarlunio am fod Llywodraeth Cymru’n dethol y data a adroddir, medd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC).

Mae’n dod yn sgil datganiad gan y gweinidog materion gwledig Lesley Griffiths yn dweud bod y tueddiadau hirdymor yn dangos bod llai o fuchesi wedi’u heffeithio, a llai o achosion newydd ledled Cymru.

Ond yr hyn na wnaeth hi dynnu sylw ato oedd bod y nifer o achosion o ddifa gwartheg TB wedi cynyddu o fewn tair o ardaloedd TB Cymru.

Cofnodwyd y cynnydd mwyaf, sef 554% yn yr ardal TB isel, a chofnodwyd cynnydd hefyd yn  ardaloedd TB Canolradd y Canolbarth a’r Gogledd, sef 16.8% yn y naill, ac 14.1% yn y llall.

Yn ardaloedd TB Uchel y Dwyrain a’r Gorllewin gwelwyd gostyngiad yn nifer y gwartheg a gafodd eu difa.

Yn ei datganiad dywed Ms Griffiths:  “Mae’r achosion ymhlith buchesi newydd wedi gostwng dros 18% yn y 12 mis hyd at Fehefin eleni, o’i gymharu â’r un cyfnod pum mlynedd yn ôl, ac mae nifer yr anifeiliaid a gafodd eu difa i reoli TB hefyd wedi gostwng bron 5%.”

Dywedodd hefyd fod yna “dueddiadau positif” yn ardal TB uchel y Gorllewin, lle mae nifer yr achosion newydd wedi gostwng dros 25% o’i gymharu â’r un cyfnod dros pum mlynedd yn ôl..

Dywedodd UAC fod ei sylwadau yn “or-bositif” a’u bod yn camddarlunio’r realiti o ran TB gwartheg ar ffermydd yng Nghymru.

Roedd UAC wedi dadansoddi data swyddogol Defra, ac wedi trefnu’r manylion am y nifer o wartheg a gafodd eu difa dros y 12 mis hyd at Fehefin 2023 fesul rhanbarth, yn ogystal  â’i gymharu â data 2017.

Dim ond dau ranbarth, sef ardaloedd TB Uchel y Dwyrain a’r Gorllewin, a welodd ostyngiad yn nifer y gwartheg a gafodd eu difa.

Roedd hyn yn golygu mai 5% o ostyngiad a fu yn y nifer o wartheg a gafodd eu difa ar draws Cymru gyfan.

Cwestiynodd UAC pam fod Llywodraeth Cymru wedi ail-gyflwyno profion cyn symud ar gyfer symudiadau gwartheg oddi mewn, ac o’r ardal TB Isel, a pham ei bod wedi ymestyn y gofyniad am brofion ar ôl symud yn yr ardaloedd TB Canolradd o 1 Chwefror 2024.

Rhwng 2017 a 2022, cofnodwyd cyfanswm o 576 o adweithyddion, 610 o adweithyddion amhendant, a 49 o gysylltiadau uniongyrchol allan o gyfanswm o 864,034 o brofion cyn symud.

Dros yr un cyfnod, canfu 52,962 o brofion ar ôl symud 10 o adweithyddion a 22 o adweithyddion amhendant yn unig.

Os ydych chi’n ffermwr gwartheg ar Ynys Môn ac yn gwybod bod y sefyllfa’n gwaethygu yn eich ardal chi, am eich bod wedi cael achos o TB yn eich buches, ac yn gwybod am nifer o ffermydd eraill sydd wedi cael achosion newydd, gall yr ystadegau hyn ar gyfer Cymru gyfan beri dicter mawr.

Mae UAC o’r farn y dylai’r datganiad fod wedi cydnabod yr amrywiad hwn yn agored drwy gydnabod y cynnydd o 554% ar Ynys Môn.

Nid yw datgan bod 5% yn llai o wartheg yn cael eu difa’n gyffredinol yn adlewyrchu’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad.