Mae ffermydd yng Nghymru’n hanfodol i hyrwyddo twf economaidd – medd UAC dros frecwast yng Nghaerdydd

Mae ffermydd yng Nghymru’n hanfodol i hyrwyddo twf economaidd y wlad – dyna oedd neges allweddol Undeb Amaethwyr Cymru wrth annerch Aelodau’r Senedd yn ystod y digwyddiad brecwast blynyddol yng Nghaerdydd (Dydd Mawrth 16 Chwefror 2024).

Mae’n bwysicach nag erioed erbyn hyn bod gwleidyddion a llunwyr polisïau yn deall yn llwyr y rôl economaidd a chwaraeir gan gymorth i ffermwyr o fewn cyd-destun ein heconomi wledig, a’r rôl hanfodol y mae ffermydd yn ei chwarae yn hyrwyddo twf economaidd.

Felly, mi fydd unrhyw doriadau, waeth pa mor fach, i’r taliadau cymorth uniongyrchol a’r gyllideb materion gwledig yn cael effaith yn y pen draw ar fusnesau o bob math yma yng Nghymru, ac mae ein modelau senarios gwaethaf yn dangos y byddai rhai sectorau busnes y tu allan i’r sector amaethyddol yn colli degau o filiynau mewn incwm.

Byddai effaith anorfod dirywiad o’r fath o ran gweithgaredd busnes yng nghefn gwlad Cymru yn ddiamau yn cael effaith uniongyrchol ar hyfywedd busnesau, swyddi yng nghefn gwlad, a’r cymunedau hynny sy’n asgwrn cefn y Gymru wledig.

Yn ystod y brecwast, a noddwyd gan Llŷr Gruffydd Plaid Cymru, ac a oedd hefyd yn cynnwys  anerchiad gan y Gweinidog Lesley Griffiths, pwysleisiwyd yn ogystal bod yn rhaid i unrhyw gynllun taliadau yn y dyfodol sy’n seiliedig ar ganlyniadau amgylcheddol a nwyddau cyhoeddus warchod ffermydd teuluol, cefnogi cymunedau gwledig, a chynnal cyflogaeth yng nghefn gwlad Cymru.

Mae’n hanfodol bwysig bod ffermydd Cymru’n parhau i ffynnu, i sicrhau ein bod yn cwrdd â’n hymrwymiadau a’n dyheadau mewn perthynas â diogelwch ein cyflenwad bwyd, byd natur a’r hinsawdd.

Dywedodd UAC y bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn ffurfio’r prif mecanwaith ar gyfer darparu cymorth i ffermwyr yng Nghymru o 2025, a dyma, yn ddiamau, yw’r newid mwyaf sylweddol i’r ffordd y mae cymorth yn cael ei ddarparu ers cenedlaethau.

Ni all Cymru fforddio cael hyn yn anghywir, nid yn unig ar gyfer busnesau ffermio, ond hefyd yr economi wledig ehangach a’r swyddi a grëir ganddi.  Rhaid i gynllun o’r fath sicrhau bod amaethyddiaeth yn gynaliadwy ac yn fuddiol ar yr un pryd.  Bydd methu â gwneud hyn yn debygol o arwain at ddifrod difrifol i ffermydd teuluol Cymru, a’r rôl a chwaraeir ganddynt o fewn economi, cymdeithas, diwylliant a thirwedd Cymru.

Pwysleisiodd UAC hefyd ei bod hi’n hanfodol bod unrhyw rwystrau rhag cael mynediad at gymorth trwy’r SFS yn cael eu chwalu, a bod y cynllun yn un ymarferol a hygyrch i holl ffermwyr Cymru, a’i fod yn cyflawni ein nodau cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.

Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn dibynnu ar gymorth o’r fath er mwyn i’w busnes fferm oroesi.  Mae sicrhau cyllid ar gyfer y sector felly yn parhau i fod yn elfen hanfodol o’n ffocws ar gyfer y dyfodol.