UAC yn rhedeg sioe deithiol i aelodau ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mewn ymdrech i ymgysylltu â ffermwyr yng Nghymru ynghylch cynigion terfynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, mae Undeb Amaethwyr Cymru’n rhedeg sioe deithiol i roi gwybodaeth i aelodau yn ystod Ionawr a Chwefror.

Lansiodd Llywodraeth Cymru yr ymgynghoriad terfynol ar ddyfodol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn Rhagfyr 2023, sef y mecanwaith a ddefnyddir i ddarparu cymorth i ffermwyr yng Nghymru o 2025 ymlaen.

Mae UAC wedi ymgynghori dro ar ôl tro gyda’r aelodau ar amryw o fersiynau o’r cynllun hwn ers 2018 ac mae bellach ar y cam mwyaf tyngedfennol o’i ddatblygiad.  Mae UAC yn annog ei haelodau i wneud pob ymdrech i ymuno â digwyddiad gwybodaeth yn eu sir, a chymryd rhan yn y broses o ffurfio ymateb yr Undeb i’r cynigion.

Er i UAC lobïo’n llwyddiannus am rai newidiadau hanfodol i’r cynllun ers ei sefydlu, gan gynnwys darparu taliad llinell sylfaen, mae yna nifer o rwystrau a chwestiynau sylweddol o hyd ynghylch rhai manylion.

Mewn ymateb i’r Ymgynghoriad Brexit a’n Tir, nododd UAC fod yn rhaid i unrhyw gynllun taliadau yn y dyfodol sy’n seiliedig ar ganlyniadau amgylcheddol a nwyddau cyhoeddus hefyd ddiogelu ffermydd teuluol, cefnogi cymunedau gwledig a swyddi yng Nghymru, a sicrhau bod amaethyddiaeth yn gynaliadwy a gwerth chweil.  Byddai methu â gwneud hynny’n debygol o wneud difrod difrifol i ffermydd teuluol yng Nghymru a’r rôl a chwaraeir ganddynt o fewn economi, cymdeithas, diwylliant a thirwedd Cymru.

Mae’r blaenoriaethau polisi hyn yn parhau i fod yn sail i ofynion allweddol UAC mewn perthynas â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy - rhaid i’r cynllun hwn fod yn un ymarferol i holl ffermwyr Cymru, a rhaid iddo’n helpu i gyrraedd ein nodau cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.