Ailbrisio’r Dreth Gyngor yng Nghymru 2025

Mae 1.5 miliwn o gartrefi yng Nghymru’n cael eu hailbrisio mewn ad-drefniad mawr o system treth gyngor y wlad.

Mi ddylai ffermdai yng Nghymru fod wedi derbyn holiadur Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) ar Ddydd Mawrth 14eg Tachwedd yn ymwneud â’r Dreth Gyngor.

Mae’r bandiau treth gyngor presennol yng Nghymru wedi’u cyfrifo ar sail gwerth yr eiddo yn 2003.  Fodd bynnag, o 2025, bydd y bandiau’n cael eu gosod yn ôl gwerth y cartref yn Ebrill 2023. 

Mae’n bwysig eich bod yn ymateb i’r holiadur o fewn y terfyn amser 21 diwrnod i sicrhau bod yr egwyddorion prisio cywir yn cael eu mabwysiadu ar gyfer eich eiddo, i ddangos ei fod wedi’i feddiannu fel rhan o fusnes amaethyddol.